Fy hufen ia!!


Diwrnod poeth iawn oedd hi heddiw.  Tywynodd yr haul fel pelen enfawr llachar.  Cerddais yn araf ar hyd y traeth hir euraid yn edmygu’r olygfa wych.  Gwelais y môr glas yn disgleirio fel gwydr yn yr haul.  Clywais blant yn chwerthin wrth wneud cestyll tywod.  Aroglais sglodion seimllyd o’r caffi lawr y lôn.  Teimlais y tywod twym rhwng bysedd fy nhraed.  Gwelais fan hufen iâ yn y pellter a rhedais tuag ato.  “Ymm… siocled, os gwelwch yn dda.  Diolch.”  O, roedd yn flasus iawn.  Ond yn gwbl ddirybudd hedfanodd gwylan fel mellten  tuag ataf.  O na! Fy hufen iâ!

Angharad, bl8