Fy nhedi lwcus


Rydw i’n pacio fy mag, rydw i’n mynd i Brasil. Rydw i’n mynd i aros mewn gwesty. Beth dylwn i bacio? Oes rhaid i fi ddod â fy nhedi lwcus….na does dim ysbrydion mewn gwesty….ond falle mae yna a falle mae rhywun wedi marw yn eu cwsg ac yn cerdded rhwng y corridorau yn gwbl ddirybudd. Falle mae’n lladd pobl yn ei gwsg ac yn edrych am blant bach i’w bwyta. A babi i’w hergipio. Beth os mae’n bwyta fi? Bydd pawb yn drist ac dydw i ddim eisiau marw. Gwell i fi ddod â fy nhedi…hmm na.

Rhys L, bl8