Tybed…?


Rhedodd merch fach o’r enw Mari mas i’r heol o flaen car. Stopiodd y car yn sydyn a gweld bod y ferch wedi cael niwed i’w choes.  Wnaeth gyrrwr y car ddim byd i’w helpu, dim ond syllu ac yna gyrru i ffwrdd. Ond roedd bachgen bach wedi gweld y digwyddiad hefyd a rhedodd y bachgen o’r tŷ mor gyflym â Usain Bolt. Ffoniodd am ambiwlans a mynd i ymweld â Mari yn yr ysbyty. Daeth Mari a’r bachgen yn ffrindiau mawr!  Tybed beth oedd hanes y gyrrwr?

Gan Taylor Evans Bl.7W