Yr arth


Stopiodd y car mawr du yn sydyn pan welais i arth. Arth mawr ffyrnig a’i lygaid mor ddu â glo yn edrych yn gyfrwys arna i. Dechreuodd yr arth gamu ymlaen mor araf â malwoden ac yna fe ddechreuodd redeg mor gyflym â llewpard. Roeddwn i’n crynu fel deilen. Sgrechiodd pawb. Agorodd yr arth fy nrws i, gafael yn fy mraich a fy nhynnu i allan o’r car! Sefais yn ôl, daeth ei freichiau’n agosach ac yn agosach tan oedd ei freichiau yn fy ngogleisio i yn chwareus…

Gan Kelsie Andrews Bl.7