Y ddamwain


Stopiodd y car yn sydyn. Roedd Danielle yn crynu fel deilen wrth weld lori yn bwrw mewn i’r goleuadau traffig. Roedd dau ddyn yn eistedd yn anesmwyth ym mlaen y lori. Yn syth, clywodd Danielle sŵn uchel y seiren a chyrhaeddodd ambiwlans fel fflach o fellten. Gwelodd Danielle pob copa walltog yn syllu ar y dynion yn y lori. “Diolch byth bod help yma” meddyliodd Danielle. Aethpwyd a’r dynion i’r ysbyty a dechreuodd y traffig symud eto. Roedd hi’n ddiwrnod bythgofiadwy am resymau ofnadwy.

Gan Lydia John Bl.7