Trip i’r traeth


Un diwrnod, sbel yn ôl roedd yn ddydd braf iawn, roedd yr haul yn gwenu’n braf. Roedd y plant i gyd yn chwarae mas tu fas gyda ei gilydd.
Roedd Sali, ffrind gorau un o’r plant, wedi gofyn os gallwn ni fynd i’r traeth, dywedais y byddwn i os allai hi ffeindio’r bwcedi a hefyd y rhawiau. Ffindiodd hi y rhawiau felly roedden ni yn barod i fynd i’r traeth. Roedden ni lawr yr hewl o’r traeth pan wnaeth rywbeth rhedeg o flaen y car. Stopiodd y car yn sydyn. Rhedais allan o’r car i weld beth oedd yna ond doedd dim byd yna, dim cath, dim byd.

Abi Wood, bl9