Diwrnod niwlog a chymylog oedd hi. Cysgu’n dawel oedd yr haul, a’r coed wedi gorchuddio yn ei flancedi bach o niwl. Roedd tywydd yn gwneud popeth yn ddiflas ar y ffordd. Hanner ffordd adref oeddwn pan ddigwyddodd. Bron â chwympo i gysgu oeddwn, pan stopiodd y car yn sydyn!
Ond yna, yng nghanol yr heol, safai, mor fregus â’r niwl ei hun yn agosáu ataf.
“Ang-har-ad, Ang-har-ad,” sibrydodd yn dawel.
Syllais yn syn arni. Ei gwallt mor ddu â’r fran, a’i hwyneb mor wyn â chalch.
“Cer nôl, cer nôl, paid â theithio’r ffordd yma.” Ac yna diflannodd a’r niwl.
Angharad Bl8