Dianc


Cerdded trwy’r ardd, cerdded at y car. Rhaid i fi ddianc oddi wrth fy nheimladau. Cefais i fy nghar yn anrheg penblwydd i drio gwneud i fi edrych ymlaen at bob dydd sydd i ddod ond dydw i ddim yn meddwl fod y car yn gweithio. Agorais i’r drws, dechrau’r car a mynd. Ar ôl pump neu chwech milltir dechreuaiais i feddwl. Beth os na fyddai rhedeg i ffwrdd yn gweithio y tro hwn? Efallai bod aros a trio sortio popeth fan hyn yn well. Gyrrais mor gyflym â phosib lawr y rhewl. Stopiodd y car yn sydyn. Beth ydw i’n gwneud?

Gan Leya Prosser 8T