Siap yn yr awyr


Un noswaith braf o Fehefin, roedd hen fenyw o Borthcawl yn mynd â’i chi am dro o amgylch yr arfordir. Roedd yr haul yn machlud ac roedd gwynt hyfryd sglodion yn yr awyr. Yn y pellter,  gwelodd hi siap rhyfedd yn hedfan yn yr awyr. Stopiodd am funud, cyn i’r ci bach fflwfflyd ei thynnu hi ymlaen. Ugain munud yn ddiweddarach, sylweddolodd y fenyw bod y siap rhyfedd yn agosau. Dechreuodd y fenyw bryderu, a dechreuodd hi frysio gartref. Yn sydyn, cyn i’r fenyw gyrraedd ei thŷ, roedd fflach enfawr a syrthiodd y siap enfawr ar ei thŷ!  Beth syrthiodd o’r awyr?

Rhydian. Bl8