Dau lwybr gwahanol


Dau lwybr gwahanol. Doeddwn i ddim yn gwybod beth i’w wneud, y grisiau ar y chwith neu’r dde? Dewisais i’r llwybr ar y chwith. Roedd yna lawer o risiau i’w dringo. Yn sydyn clywais i rywbeth bach yn rhedeg yn y gwrychoedd. Neidiodd e mas, llygoden fach. Rhedais i lan gweddill y grisiau a gwelais i hen ddyn gyda barf mawr gwyn yn darllen y Beibl a dywedodd e mai fi oedd y person cyntaf i ddringo y grisiau am 1000 o flynyddoedd ac roedd rhaid i fi aros lan y grisiau gyda fe am byth.

Ceri, bl8