Jim-Bob


Roedd yna fachgen o’r enw Jim-Bob McBob-Jim. Un dydd roedd Jim-Bob yn cerdded yn y parc. Roedd y fynedfa ar un ochr, a’r allanfa ar yr ochr arall. Er mwyn cyrraedd yr allanfa, rhaid cerdded i fyny grisiau. Roedd y grisiau yn dal ac yn hen. Pan gyrhaeddodd Jim-Bob y grisiau, sylweddolodd bod dau set o risiau, Roedd un set o risiau yn brydferth a thaclus, ac roedd un set o risiau yn fudr ac anhaclus. Ni welodd unrhyw un Jim Bob eto. Pa set o risiau wnaeth Jim-Bob ddewis? Beth ddigwyddodd i Jim-Bob? Pa grisiau fyddech chi wedi ei ddewis?

Rhydian, bl8