Llwybr ofnus


Cerddais i lan llwybr hir ofnus ac roedd e’n dywyll fel y gofod. Gobeithiais i bydd neb yn fy ffeindio i. Roedd e’n wyrdd fel Plantasia ac roedd coedwig o gwmpas fi. Clywais i riddfan yn dod o’r perthi a rhedodd dyn gyda chyllell enfawr yn syth ata i gan weiddi “fi’n dod i ôl ti”. Rhedais i  mor gyflym ag oedd fy nghoesau yn gallu mynd a fi ond roedd e wedi fy nal i. Ciciais e a rhedeg. Edrychais i nol ond oedd e wedi diflannu. Edrychais i nol o fy mlaen i ac roedd e’n sefyll yna ond roedd e’n ysbryd.

Cai, bl8