Y mwclis


Roedd gen i’r mwclis o’r deml ond roedd rhywbeth yn fy nilyn i, roedd rhaid imi rhedeg. Rhedais trwy’r tir anferthol ond doeddwn i ddim gallu gweld beth oedd yna. Yna stopiais yn syn-dau lwybr gwahanol? Roedd un yn arswydus fel ystafell anghysbell ac roedd un yn dywyll fel y nos, pa un i ddewis? Roeddwn i’n rhedeg mas o amser ond pan gerddais lan un o’r llwybrau roedd yna rywbeth yn fy stopio fi, rhyw rym ond doedd gen i ddim amser. Gwthiais ymlaen ond roedd y grym yn cryfhau tan na fedrwn symud. Yna dechreuais godi o’r llawr nes fy mod uwchben y tir lan yn yr awyr. Doeddwn i ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd ond yna roedd y byd wedi mynd yn ddu. Agorais fy llygaid i weld fy hun yn fy nhŷ, roedd yn freuddwyd ond roedd y mwclis o gwmpas fy ngwddf.

Jaden, bl8