Angel


Agorais fy llygaid wrth deimlo haul melyn yn llifo ei olau ar draws fy nghroen. Clywais adar yn canu a dŵr yn rhedeg. Gwelais goed du yn creu synau hudol trwy’r gwynt. Ble ydw ? Meddyliais i fy hun wrth sefyll a theimlo dail o dan fy nhraed. Yn sydyn daeth merch i’r golwg, y ferch fwyaf hardd erioed gyda gwallt aur yn llifo heibio ei hysgwyddau fel yr afon o ddwr glanaf yn y byd. Cerddodd hi lawr y grisiau cerrig fel angel yn dod o’r nefoedd. Siaradodd hi ond ni ddaeth sŵn i fy nghlustiau ond am sŵn angylion yn canu a hud yn dod yn wir.

Tara, bl8