Llwybr hapus a llwybr trist


Roedd yna ddau lwybr hir iawn, roedd un yn mynd â chi i’r lle rydych yn cael bwyd, teulu a bywyd ardderchog ond roedd un yn mynd â chi i le trist ble doedd yna ddim bwyd, teulu a bywyd trist iawn iawn ond pan roeddech yn mynd doeddech chi ddim yn gallu mynd nol! Cerddais i lan y grisiau sy mor hir â’r Afon Hafren. Cyrhaeddais i ben y lle trist. Roedd yna lot o fwd ac roedd pawb yn edrych mor denau yn enwedig y mamau. Roedd hi’n boeth lan fan hyn mae syched arna i! O Rwy’n wir eisiau mynd ADREF!!

Chloe, bl8