Gwylanod drwg!


Un bore dydd Sadwrn, roedd yr haul yn sgleinio fel diamwnt yn yr awyr. Roedd y tywydd yn annhymorol iawn, roeddwn yn torheulo ar y traeth gyda’r plant yn chwarae gyda gwên fawr ar eu hwynebau. Roedd y môr mor las â saffir. Roedd y gwylanod yn dwyn sglodion y plant, roedd e mor ddoniol. Mmm, wrth feddwl amdano, rydw i’n mynd i brynu  bag o sglodion. O na! Mae’r gwylanod wedi dwyn fy sglodion!! O gwylanod bach slei! Reit, mae hi’n amser mynd adref! Ond, dwi wedi cael diwrnod bach hyfryd!

Cerys bl8