Pêl-Rwyd y Sir Dan 14
Mae Sarah Llewellyn a Ameca Jones o flwyddyn 9 wedi cael eu dewis i sgwad Pêl-Rwyd y Sir Dan 14 unwaith eto eleni. Llongyfarchiadau ferched, a pob lwc i chi gyd gyda’r ymarferion a’r gemau!
Canlyniadau Hoci
Mae nifer o ferched newydd wedi ymuno gyda clybiau Hoci yr ysgol y tymor hwn, ac maent wedi cael hwyl gyda’r gemau a’r ymarferion. Dyma rhai o’r canlyniadau: Tîm Dan 14 – Colli o 1-0 yn erbyn Esgob Vaughan, a ennill 1-0 yn erbyn Cefn Hengoed. Tîm Dan 16 – Colli 1-0 yn erbyn Esgob Vaughan mewn gêm hynod o gystadleuol a cyffrous.
Canlyniadau Pêl-Rwyd
Dan 18 – Ennill yn erbyn Olchfa o 27 gol i 17 ; colli mewn gêm hynod o gystadleuol a agos i Ystalyfera o 15 gol i 16 – yn y funud olaf!
Blwyddyn 11 – Ennill yn erbyn Llandeilo Ferwallt o 14 gol i 7.
Blwyddyn 10 – Colli yn erbyn Llandeilo Ferwallt o 17 gol i 8 ; Ennill yn erbyn Ystalyfera o 18 gol i 4.
Blwyddyn 9 – Ennill yn erbyn Pontarddulais o 19 gol 2.
Blwyddyn 8 – Ennill yn erbyn Pontarddulais o 7 gol i 2.
Canlyniadau Pêl-Droed
Blwyddyn 11 – Ennill yn erbyn Daniel James o 6 i 5;
Blwyddyn 10 – Ennill yn erbyn Cefn Hengoed o 2 i 1; Colli yn erbyn Olchfa o 4 i 0 yn Cwpan Cymru Blwyddyn 8 -Colli yn erbyn Cefn Hengoed o 3 i 2;
Blwyddyn 7 – Colli yn erbyn Pentrehafod o 2 – 1 yn Cystadleuaeth Cwpan Cymru
Rygbi y Gweilch
Mae Rhys Williams a David Skone o flwyddyn 11 bellach wedi cael eu dewis fel rhan o dîm rygbi y Gweilch. Maent yn ymarfer ac yn chwarae gemau yn wythnosol gyda’r tîm! Pob hwyl i chi fechgyn!
Canlyniadau Rygbi
Tîm 1af – Gwnaeth y tîm cyntaf ennill eu gêm gyntaf o’r tymor yn erbyn Treforis/Esgob Vaughan o 19 pwynt i 15. Llongyfarchiadau iddynt – dyma’r gêm gyntaf iddynt ennill allan o 4. Daliwch ati fechgyn!
Blwyddyn 10 7 bob ochor – Gwnaeth y tîm yn hynod o dda yng nghystadleuaeth 7 bob ochor Llandeilo Ferwallt. Aeth y tîm trwyddo i rownd derfynol y plât. Wnaeth y tîm golli yn erbyn Treforis yn y gêm derfynol.
Blwyddyn 9 – Gwnaeth tîm blwyddyn 9 gystadlu yng Ngwyl Rygbi Ysgolion Abertawe yn gynharach yn y tymor. Fe wnaeth y tîm golli o 5 i 0 yn erbyn Esgob Gore yn y rownd derfynol. Llongyfarchiadau ar eich llwyddiant fechgyn! Canlyniadau eraill ar y maes rygbi – Blwyddyn 9 – Ennill yn erbyn Gwyr o 3 i 0.
Blwyddyn 8 – Ennill yn erbyn Treforis.
Blwyddyn 7 – Colli yn erbyn Esgob Gore o 5 i 0.