Tachwedd/Rhagfyr 2009


PÊL-RWYD : SGWAD DATBLYGU Y SIR DAN 14

Mae Caitlin Rees-Godwin o flwyddyn 9, Tianna McIntosh a Georgia Reynolds o flwyddyn 8, a Megan Morris o flwyddyn 7 wedi cael eu dewis i sgwad Datblygu Pêl-Rwyd y Sir Dan 14 . Llongyfarchiadau ferched, a pob lwc i chi gyd gyda’r ymarferion a’r gemau!

PÊL-RWYD : SGWAD Y SIR DAN 16 a DAN 18

Mae Katie Llewelyn, Finny Rees Godwin a Buddug LLyr (Dan 16), ac Angharad Morris (Dan 18) wedi cael eu dewis unwaith eto eleni i fod yn sgwad Pêl-Rwyd y Sir. Maent yn ymarfer yn gyson yn wythnosol, ac yn gweithio tuag at cael eu dewis i gynrychioli y Sir ym mhencampwriaeth Cymru ym mhellach ymlaen yn y flwyddyn. Pob hwyl i chi ferched a llongyfarchiadau!

Traws Gwlad – Pencampwriaeth Y Sir

Wnaeth nifer o ddisgyblion gystadlu ym mhencampwriaeth Traws Gwlad y Sir, a gwelwyd ymdrech wych gan bawb. O ganlyniad, mae’r canlynol wedi cael eu dewis i gynrychioli y Sir ym mhencampwriaeth ysgolion Cymru. Llongyfarchiadau enfawr i chi, a phob lwc:

Hywelis Thomas, Siwan Thomas, Geraint Meek, Ben Williams a Carwyn Evans.

Cystadleuaeth Pêl-rwyd yr Urdd

Llongyfarchiadau i’r merched a wnaeth gystadlu yn nhwrnament Pêl-Rwyd yr Urdd yn ystod mis Tachwedd yng Nghaerdydd. Roedd dros 40 o ysgolion yn cystadlu ym mhob grŵp oedran. Unwaith eto, fe wnaeth y merched gynrychioli yr ysgol yn arbennig!

  • Fe wnaeth merched bl.7 a 8 gystadlu yn hynod o dda, ac maent yn amlwg wedi elwa yn fawr iawn o’r profiad. Da iawn chi!
  • Fe wnaeth merched bl.9 a 10 wneud yn arbennig o dda i gyrraedd y rownd gynderfynol – yn ennill eu 8 gêm pwll yn hawdd : v.St Teilos 9-0; v.Cwmtawe 6-3; v.Cymer 7-0; v.Gwynllyw 7-2; v.Esgob Gore 5-2; v.Corpus Christie 6-5; v.Bro Morgannwg 4-3; v.Glantaf 2-0. Fe wnaethant wedyn ddod lan yn erbyn ysgol Glan Y Mor yn y rownd nesaf, gan ennill o 5 gol i 2, ac wedyn ymlaen yn erbyn Cwm Rhymni yn y rownd gynderfynol. Roedd y gêm yn hynod o agos, ac fe gollwyd y gêm yn y funed olaf o un gol. Llongyfarchiadau enfawr i chi ferched!
  • Fe wnaeth merched bl. 11-13 wneud yn hynod o dda hefyd wrth iddynt ddod lan yn erbyn nifer o golegau 6ed dosbarth. Dyma’r canlyniadau, ac er iddynt golli pob gêm, roeddent yn hynod o agos, ac yn amlwg wedi elwa yn fawr iawn o’r profiad : v.Coleg Dewi Sant 3-5; v.Coleg Pencoed 4-5; v.StCennydd 5-6; v.Ystalyfera 3-6; v.Coleg Sir Gar 6-4. Da iawn chi!

Athletwraig y gystadleuaeth

Wnaeth Catrin Roberts o flwyddyn 9 gystadlu ym mhencampwriaeth Athleta Dan-Dô ysgolion Abertawe cyn y Nadolig. Roedd yn noson gystadleuol, gyda Catrin yn llwyddo i ennill Athletwraig y Gystadleuaeth. Llongyfarchiadau enfawr, a phob hwyl gyda’r ymarfer ar gyfer tymor yr Haf.

Canlyniadau TRAWS GWLAD

Llongyfarchiadau i bawb â wnaeth gystadlu eleni ym mhencampwriaeth traws gwlad y sir. Roedd yr ymdrech a’r ymroddiad yn wych. Dyma rhai o’r canlyniadau:

TÎM MERCHED BLWYDDYN 7 – AMBER WILLIAMS 13EG ; MEGAN BOWDEN 14EG ; ANNEST PHILLIPS 18FED ; ELEN CHERRY 22AIN ; ELEN SMITH 25AIN ; LAUREN ROGERS 26AIN ; LUCIA FESTA 31AIN ; LUCY STEELE 35

TÎM MERCHED BLYNYDDOEDD 8 A 9 – SIWAN THOMAS 1AF ; CATRIN ROBERTS 10FED ; EMMA EYNON 23AIN; SABRINA OWEN 22AIN

TÎM BECHGYN BLWYDDYN 7 – BEN WILLIAMS 1AF ; KYLE ARTIS 13EG ; IEUAN RICHARDS 15FED ; JACK SHAW 19FED ; OLIVER DRAPER 24AIN

TÎM BECHGYN BLYNYDDOEDD 8 A 9 – DECLAN WALTERS 12FED ; RHYS UNDERDOWN 13EG ; ASHLEY MORRIS 16FED ; ALED TOMOS 19 ; GWILYM DAVIES 20FED ; MILO MEREDITH 22AIN ; GWION LEWIS 27AIN

TÎM BLYNYDDOEDD 10 A 11 – HYWELIS THOMAS 1AF ; CARWYN EVANS 2AIL ; GERAINT MEEK 5ED