-
Perfformio
Rwyn twymo, yn barod i chwarae’r piano yng nghyngerdd Nadolig Bryn Tawe. Rydw i’n nerfus iawn! Rydw i’n gallu clywed nodau’r piano…’A,B,C,D,E,F A G’! Gallaf glywed rhywun arall yn chwarae’r piano! O’ na, maen nhw’n dda iawn! Beth os ydw i’n anghofio’r darn? Cerddaf at y llwyfan, rydw i’n eistedd yn barod i chwarae’r darn!…
-
Mozart
Un diwrnod es i i gyngerdd cerdd, pan es i roedd yna siop o’r enw Selsig Swper. Cefais un o’r selsig a roeddwn i’n freuddwydiol. Yn sydyn clywais i y nodau o’r piano. Wedyn rydw i wedi gweld Mozart ond dydw i ddim gallu mynd i gwrdd ag ef oherwydd roeddwn i eisiau tŷ bach,…
-
Tir cerddoriaeth
Roeddwn mewn lle arbennig llawn sŵn, ond sŵn swynol oedd o, roeddwn i yn nhir cerddoriaeth. Roedd llawer o offerynnau yn chwarae ac yn dawnsio rownd y lle fel traed yn symud. Doedd neb yna gyda fi heblaw am yr offerynnau yn gwneud sŵn fel stryd brysur. Nodau’r piano yn chwarae’n gyflym fel car yn…
-
Dawnsio!
Rwyn cerdded lan ar y llwyfan, pawb yn fy ngwylio i , maen nhw yn cyhoeddi fy enw, oedran a pha fath o ddawns wy’n mynd i’w gwneud; “Cerys Lewis, 13, a dawns tap!! Un, dau, un, dau, tri, rhoddais i nod at y piano, wedyn clywais i’r nodau yn dianc o’r piano a bant…
-
Sŵn ofnadwy!
Beth oedd y sŵn yna? Sŵn fel aderyn mawr swnllyd neu blentyn bach yn chwarae’r drymiau. Aaaaaa! Mae’n sŵn ofnadwy fel sŵ brysur. Ble ddaeth y sŵn? Pwy sy’n gwneud y sŵn erchyll ‘ma? Pam? Mae rhaid i mi ei stopio. Mae’n dod o’r ystafell fach drws nesaf i’r gegin. Mae’n amhosib i gael tawelwch…
-
Llwyden
Shhhhhh! Peidiwch gwneud sŵn! Byddwch yn dihuno y bobl sy’n cysgu! O! Rwy’n flin, dydw i ddim wedi cyflwyno fy hunain. Hych Hych…….Fi yw Llwyden y llygoden, ac rydw i’n byw tu fewn i’r piano. Ond rhaid bod yn dawel, byddwch yn ofalus i beidio camu ar y nodau’r piano! Rydw i’n cysgu yma. Dyma…
-
Ffarwelio
Roedd y dydd caletaf wedi dod. Roedd y tywydd mor ddiflas â theimladau pawb. Pawb wedi eu gwisgo mewn du, beichio crio yn llenwi fy nghlustiau. Roedd fy nghorff yn crynu fel deilen. Cyrraedd yr eglwys, roedd yr awyrgylch yn llawn marwolaeth a’r beddau yn fy amgylchynu. Roedd yr arch yn yr hers o fy…
-
Yr hen dŷ hyll a gwag.
Mae rhywbeth o’i le yma, mae’r atmosffer yn anesmwyth a dwi’n teimlo fel bod yr hen waliau yn agosau ata’ i. Teithia’r arogl brwnt yn araf lan fy nhrwyn ac i fyny at fy ymennydd. Yn sydyn daw cant o atgofion yn rhedeg yn ôl ata’ i. Dwi di bod yma o’r blaen. Wir nawr.…
-
Perfformiad
Daeth y ferch fach iawn ar y llwyfan. Edrychodd mor wyn ag eira. Yn shiglo fel deilen yn y gwynt. Gwnai ei mam llygaid o anogaeth yn y rhes ffrynt. Yna daeth merch mor brydferth â blodyn a’i gwallt fel golau’r haul. Nodiodd ei phen ac yna dechreuodd y nodau o’r piano. Llais swynol fel…
-
I’r gad!
…roedd yn ddechrau newydd i ni i gyd … Hwre! Mae’r holl dîm mewn sioc! Rydyn ni yno o’r diwedd! Yn y rownd derfynol! Ar ôl tair blynedd o ymlafnio i geisio cyrraedd yno, brwydro drwy anawsterau, chwysu a llefain dagrau, ry’n ni wedi cyrraedd brig y mynydd. Roedd y dorf heddiw yn bloeddio nerth…