Month: January 2013

  • Y gaeaf

    Cas yw’r oerfel pegynol sy’n cipio’r gwres crasboeth ac yn cloddio’i grafangau i mewn i graidd yr Hydref, ac yn plannu hadau peryglus y Gaeaf. Mae pob darn o wyrddni‘n cael ei orchuddio gan flanced wen o eira, ac mae pob plentyn yn clywed yr eira hudol yn crensian i lawr i’r ddaear ac yn…

  • Dechrau da i’r gwyliau?!

    Roedd y rhew yn drwchus ym mhob man. Roedd hi’n bwrw eira yn drwm. Ac yn oer, oer, oer. Roedden ni yn y garafan ar ein gwyliau ac yn sydyn roedden ni wedi torri lawr-dechrau da i’r gwyliau. Gwnes i redeg i ffeindio rhywun i’n helpu ni ond doedd neb yna. Roedd rhaid i ni…

  • Y bwystfil yn y goedwig.

    Roedd rhywbeth yna, gwelais fy ffrind yn rhedeg i ffwrdd ond rhedais i’r ffordd arall. Rhedais am fy mywyd trwy’r gwair gwyrdd ar goed di-liw y nos. Roeddwn i’n teimlo’n drwm, doeddwn i ddim yn gallu cario ymlaen rhedeg fel hyn. Yna gwelais rew ar y llwybr, dilynnais i’r rhew ac yna stopiais yn syn.…

  • Gwrando ar yr eira

    Eistedd yn y garafan yn gwrando ar yr eira yn cwmpo ar y to metal, mae’r eira yn dechrau gorchuddio pob ddarn o’r cae gwyrdd yn flanced gwyn, meddal. Rydw i eisiau rhedeg trwy’r cae, yn teimlo’r eira ar fy mysedd , llithro dros y rhew sydd yn cuddio o dan y flanced gwyn, feddal…

  • Y toriad trydan trafferthus!

    Bu 19 person yn eistedd yn ystafell  TGCh ac yna yn sydyn diffoddodd y pwer. Rhedodd pawb allan o’r dosbarth yn sgrechian yn ofnadwy. Yn roedd pawb yn sefyll yn y coridor tywyll fel glo. Yn cerddon nhw yn ofalus ar hyd y coridor llawn tywyllwch, gan chwilio am rywle gyda golau. Yna yn sydyn…

  • Yr ardd ryfedd

    Yn yr ardd mae blodau oren a phinca menyw sy’n gwisgo dim ond oren a phinc. Yno hefyd mae gwair coch a melyn a choeden borffor. Mae cangarwiaid gwyrdd a blodau o gandi fflos a mochyn daear glas. Yng nghanol yr ardd goch a melyn roedd piano o liwiau’r enfys a roedd y nodau o’r…

  • Mynd am dro

    Un diwrnod braf roedd bachgen a’i gi yn mynd mas am drolan y mynydd. Roedd y ci wedi clywed sŵn, ond dim oedd y ci oedd yn gallu ei glywed e. Roedd y ci wedi dilyn y sŵn ac roedd merch brydferth yn chwarae’r piano. Roedd y bachgen wedi dweud, “beth yw’r nodau yna? Mae’n…

  • Gwersi piano

    Rwy’n mynd i glwb piano. Rwy mynd i ddysgu nodau’r piano. Dyma fy nydd cyntaf yn y clwb, rwy mor gyffrous. Tybed a fydd pobl yn fy hoffi i, o rwy nawr yn teimlo’n ofnus? Roeddwn arfer mynd i glwb ond roedd yr athrawes piano Miss.John wedi mynd yn orffwyll a yna roedd pawb angen…

  • Y siop gerddoriaeth

    Mae gan y siop offerynnau’n lawer o offerynnau. Mae yna offerynnau o bob math. Rhai’n goch, rhai’n las, rhai’n felyn ac yn ddu. Mae yna wledd o sŵn a chanu. Mae fy mhen i’n dost, ond mae gen i want i gael blas o’r offerynnau i gyd. Mae yna un o’r enw’r timpani, ond mae…

  • Y freuddwyd

    Roeddwn i yn gwrando ar fy ngherddoriaeth ac yn sydyn clywais i yr nodau o’r piano. Roedden nhw yn feddal fel cwmwl gwyn. Gwelais i bobl bach fel munchkins o’r wlad Oz. Roedden nhw yn fach fel plant tua 3-4 oed. Roedd y piano wedi gorffen ei ddarn a stopiodd y gân i gyd. Codais…