Month: November 2012

  • Ry’n ni’n well heb fwlio.

    Byddech yn well heb fwlio. Byddech  yn well  heb bwnio neu fygythiadau. Byddech yn well heb edrych ar facebook a gweld bygythiadau. Ond dyma fywyd a dydy bywyd ddim yn hawdd i bobl fel fi sy’n rhedeg a rhedeg am byth heb weld fod ffordd allan oddi wrth y bwlis, ond mae yna broblem o…

  • Ry’n ni’n well heb fwlio!

    Bwlio, bwlio. Beth yw e? Peth hyll, rhywbeth sy’n effeithio ar bobl yn gorfforol ac emosiynol. Mae rhai pobl yn credu ei fod yn ddoniol ond dydyn nhw ddim yn gweld y niwed maen nhw’n ei wneud i’r person maen nhw’n ei fwlio. Mae pobl yn gallu cael bywyd gwael oherwydd bwlio, mae’n effeithio ar…

  • Ry’n ni’n well heb fwlio!

    Pam gwneud i berson deimlo’n fach? Pam gwneud i berson deimlo poen? Ydych chi’n ei wneud am hwyl neu er mwyn gwneud i fi deimlo’n fach, i chi deimlo’n well?  Beth am fywyd gyda phawb yn cyd-dynnu, byw mewn heddwch? Pam nad ydy pawb gallu bod yn ffrindiau a neb yn bwlio neu boeni pobl…

  • Ry’n ni’n well heb fwlio!

    Ry’n ni’n well heb fwlio. Gallwch gael eich bwlio mewn sawl ffordd wahanol. Gallwch fod yn bwlio pobl eraill trwy anafu pobl, galw enwau, ymosodiad corfforol neu trwy wefannau ar y rhyngrwyd. Y pedwar cam i stopio pobl rhag bwlio chi yw: 1)Dweud wrth y person nad ydych yn hapus gyda nhw yn eich bwlio…

  • Ry’n ni’n well heb fwlio!

    Mae bwlio yn beth cas i’w wneud i bobl. Heb fwlio bydd y byd a’r ysgol yn lle gwell a hapusach. Mae yna fwlio emosiynol a chorfforol. Mae bwlio emosiynol yn haws i’w wneud ac mae’n waeth na bwlio corfforol. Mae bwlis yn poeni rhywun yn ddi-stop. Weithiau dydyn nhw ddim yn gwybod eu bod…

  • Ry’n ni’n well heb fwlio!

    Yn fy marn i mae bwlio yn ffordd i’r bwli deimlo’n fwy hyderus amdano ei hun wrth  wneud i eraill deimlo yn wael. Cefais i fy mwlio mewn ysgol arall a gwnaeth yr ysgol honno ddim helpu. Dydy bwlio ddim yn brofiad da i’w gael. Wrth i bobl fynd yn hŷn byddwch chi’n credu bydd…

  • Llygoden?!

    Does dim llawer o’r siocled ar ôl. Dim ond rhan fach sydd ar ôl. Pwy wnaeth fwyta’r siocled? Dwi’n gwybod un peth, nid fi wnaeth ei fwyta! Dwi’n gwylio’r siocled yn eistedd ar ei ben ei hun a dwi’n poeni amdano…Ond rydw i eisiau ei fwyta! Efallai gwnaeth llygoden fwyta’r siocled. Dydw i ddim eisiau…

  • Mmmmmmmm!

    Mae’r mars bar yn edrych yn flasus. Mae rhywun wedi gadael un darn ar ôl. Be wna’ i? Mae fy ngheg yn symud. O na! Rydw i wedi ei fwyta! Blasaf siocled melys, cnau caled, caramel stici yn toddi ar fy nhafod. Mae fy ngheg yn glafoerio am fwy o siocled brown, blasus . Mmmmmmm!…

  • Help, lle mae fy nghorff?!

    Mae’r bar o siocled yn unig fel post it wedi ei adael ar ddesg. Roedd rhywun wedi dod a bwyta’r rhannau eraill o fy nghorff. Be wna’ i? Rwy’n gwybod fy mod yn blasu’n hardd ond pam oedd rhaid i chi fy mwyta? Help, dydw i ddim yn hoffi hyn, ble mae gweddill fy nghorff,…

  • O na!

    Mae un darn o siocled ar ôl. Pwy all ei gael? Mam? Dad? John? Casi y ci? Mae’r siocled yn eistedd yn stond ar y plât gwyn. Rhaid ei fod yn blasu’n hynod o fendigedig. Mae John yn mynd i godi’r darn olaf. Galla i ei glywed yn sgrechain yn uchel…”Tom, bwyta fi!” Ond wela’…