Month: February 2013

  • Y cysgod yn y coed

    Roeddwn i’n cerdded adref un dydd o’r ysgol pan welais i gysgod yn y coed. Symudais i’r coed ond doeddwn i ddim gallu gweld unrhyw beth. Ond yn gwbl ddirybydd daeth dyn mawr gyda phaent ar ei wyneb o du ôl i un o’r coed a cydiodd ef ynddo fi. Sgrechiais am help ond doedd…

  • Diwrnod arferol

    Doeddwn i ddim yn disgwyl hyn y dydd hwnnw… Un bore glawiog, roeddwn i yn meddwl bod e’n ddydd arferol, codais o’r gwely ac es i’r ysgol. Yn yr ysgol roedd popeth yn arferol ond doedd e ddim yn gwbl normal. Beth bynnag, amser cinio roedd rhywbeth wedi digwydd yn gwbl ddi-rybudd. Roeddwn i yn…

  • …yn gwbl ddirybudd…

    Roedd  hi’n bwrw hen wragedd a ffyn y tu allan i’r ffenest. Tywydd diflas ac roedd y gwaith hefyd yn ddiflas. Eistedd ar bwys fy nesg trwy’r dydd yn syllu ar y monitor am oriau. Es i Spar ar y ffordd adref i godi fy nghalon. Prynais far enfawr o Galaxy- fy hoff siocled. Cefais…

  • …yn gwbl ddirybudd…

    Un dydd Gwener glawiog yn yr ysgol, roeddwn i’n edrych ar y cloc bach ar wal yr ystafell ddosbarth yn aros yn eiddgar i’r gloch ganu. Roedd deg munud hir ar ol. Bip bip bip- y gloch! Hwre! Rhedais allan o’r dosbarth ar frys. Gwibiais drwy’r coridorau ac allan i’r awyr iach. Sgipiais hyd y pafin…

  • Yr allwedd dirgel

    Allwedd arian yn disgleirio yng ngolau’r haul trwy’r gwair gwyrdd. Beth yw ei stori? Sut cafodd ei adael yma? Gan bwy? Efallai cafodd ei adael gan frenin cyfoethog, neu ferch ifanc gyda gwallt cyrliog du. Neu efallai cafodd ei adael gan fwystfil enfawr sydd wedi colli’r allwedd i’w ogof enfawr o dan y ddaear. Does dim dal…

  • Y bwgan

    Roedd allwedd yn gorwedd ar y gwair gwyrdd, trwchus. Yr allwedd i’r tŷ a godai ofn ar bawb. Yn y tŷ roedd bwgan heb drwyn na chlustiau. Collodd e nhw yn yr Ail Ryfel Byd oherwydd fod y Natsiaid wedi eu saethu. Ei drwyn a’i glustiau oedd hoff beth y bwgan, a hebddyn nhw roedd…

  • Colli fy allwedd

    Ble mae fy allwedd? Mae ar goll. Dydy e ddim yn y cwpwrdd a ddim ar y bwrdd. Dydw i ddim yn gallu dod o hyd iddo. Rydw i yn rhuthro oherwydd rydw i’n hwyr i’r gwaith. Rydw i’n penderfynu edrych tu allan yn yr ardd. Dydy e ddim ar y palmant, dydy e ddim…

  • Teithio mewn amser!

    Un dydd es i i’r parc. Pan roeddwn i yn rhedeg i’r parc des i o hyd i allwedd ar y gwair. Codais i’r allwedd a gwelais i focs gwyn yn sownd i bolyn. Rhoddais i’r allwedd yn y bocs gwyn a cheisio’i droi. Agorais i’r bocs ac roedd twll yna a tynnodd fi i…

  • Becso am yr allwedd

    Roeddwn yn besco am yr allwedd, fy allwedd. Roeddwn i yn cerdded ar draws cae enfawr ar y ffordd adref a chollais fy allwedd ar y llawr. Ar yr amser hwnnw doeddwn i ddim yn gwybod am hyn a chariais ymlaen i gerdded. Pan gyrhaeddais adref, a chyrraedd y drws doedd yr allwedd ddim yna.…

  • Un noson dywyll…

    Un noson dywyll cerddais i dros y glaswellt gwyrdd. Darganfyddais i allwedd arian yn gorwedd mor llonydd â llyfr. Edrychais i o amgylch i weld lle allai’r allwedd hudol yma fynd. Gwelais i ddrws hudol yn disgleirio fel seren ym moncyff y goeden. Codais i’r allwedd hudol a’i roi yn y drws, yna roedd y…