Category: Newyddion

  • Seremoni Cadeirio 2016

    Cynhaliwyd Seremoni Cadeirio’r ysgol eleni eto ar Fawrth y 1af fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yr ysgol. Trosglwyddwyd yr awenau yn ôl yr arfer i brif swyddogion yr ysgol, sef Nerys Williams a Llŷr Davies. Eleni, cyn-ddisgybl i’r ysgol oedd yn beirniadu sef Naomi Steel. Braf oedd ei chroesawu nôl atom a chlywed…

  • Llongyfarchiadau!

    Llongyfarchiadau i Ffion Tomos bl.7 ar ennill cystadleuaeth i ysgrifennu cerdd i gofio’r Blits yn Abertawe. Darllenwyd y gerdd yn Eglwys y Sanets Fair mewn gwasanaeth i gofio 75 mlynedd ers y Blits.

  • Rhuthro i Rydychen

      Pleser yw nodi llwyddiant dau o ddisgyblion Bryn Tawe wrth sicrhau cynigion i astudio Saesneg ym mhrifysgol Rhydychen. Mae’n gyrhaeddiad arbennig i’r ysgol gan mai dyma’r myfyrwyr cyntaf yn hanes yr ysgol i gael y cyfle i astudio yn Rhydychen ac mae’r adran Saesneg yn hynod falch ohonynt. Bydd Rhys Griffiths-Underdown yn astudio Saesneg yng…

  • Llwyddiant ESU (unwaith eto!)

    Unwaith eto, rydym yn falch i gyhoeddi llwyddiant yn rownd ranbarthol cystadleuaeth ‘Performing Shakespeare’ a drefnwyd gan yr ESU (English Speaking Union) a chynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd a llongyfarchiadau gwresog i Steffan a Manon am y fuddugoliaeth yma! Maent wedi ennill lle yn rownd derfynol y gystadleuaeth a fydd y par…

  • Ymweliad Busnes Blwyddyn 10

    Ar ddydd Mercher Ragfyr 16eg, fe aeth disgyblion Blwyddyn 10 Busnes i Ysgol Fusnes y Brifysgol Drindod Dewi Sant ar gyfer y digwyddiad ‘Big Business Bonanza’. Roedd y digwyddiad wedi rhoi cyfle i’r disgyblion cymryd rhan mewn nifer o weithdai busnes o farchnata i reolaeth chwaraeon. Gaeth y disgyblion amser hwylus ac rydym yn ddiolchgar…

  • Ffair Nadolig

    Ffair Nadolig  nos Fercher 2 Rhagfyr am 6.00 o`r gloch Eleni, bydd pob grŵp blwyddyn yn gyfrifol am roi eitemau i’r stondinau canlynol. BL.7 – Hamperi dosbarth lliw. BL.8 – Teganau meddal o safon dda. BL.9 – Gwobrau twba lwcus – wedi’u lapio a’u labelu ar gyfer bachgen neu ferch. BL.10 – Poteli – sudd,…

  • Diwrnod T. Llew Jones

    A hithau’n ganmlwyddiant geni T.Llew Jones, dathlwyd y diwrnod gyda gweithgareddau amrywiol yn yr ysgol. Cynhaliwyd gwasanaeth, gyda’r Chweched yn cymryd rhan, yn sôn am gyfraniad T.Llew Jones i fyd llenyddiaeth. Yn ystod yr wythnosau diwethaf, cafodd pawb ym ml.7-9 gyfle i greu cerdyn i gofio a dathlu bywyd T.Llew Jones a chreu cerddi gwreiddiol…