Category: CYMRAEG

  • Llongyfarchiadau

    Llongyfarchiadau mawr i griw o fl.7-9 ar ennill yr ail wobr yn y Cywaith Iau yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Y teitl oedd “Graffiti” ac fe gafodd y criw hwyl yn llunio prosiect yn seiliedig ar bob mathau o graffiti enwog a chael blas ar greu ychydig o graffiti (chwaethus!) yn yr ysgol! Llongyfarchiadau hefyd…

  • Noson Goffa Dafydd Rowlands

    Hyfryd oedd derbyn gwahoddiad i’r ysgol gymryd rhan yn Noson Gofio Dafydd Rowlands eleni yng Ngwesty’r Manor Park yng Nghlydach. Perfformiodd y Côr hŷn, y Côr Cerdd Dant, Parti Dawnsio Gwerin bl.7-9 a Pharti Llefaru bl.7-9. Bydd yr eitemau yma’n cystadlu yn Eisteddfod yr Urdd yn y Fflint ymhen rai wythnosau. Llongyfarchiadau mawr hefyd i…

  • Cylchlythyr Haf 2016

    Cliciwch ar y cyswllt isod i agor Cylchlythyr tymor yr Haf. http://www.bryntawe.swansea.sch.uk/correspondence_cy.php  

  • Etholiad prif ddisgyblion 2016

    Pleser yw cyhoeddi enwau ein prif ddisgyblion newydd ar gyfer y flwyddyn nesaf. Roedd wyth ymgeisydd eleni, sef Sara Dafydd, Catrin Hedges, Rhiannon James, Anna Matthews, Iestyn Davies, Sam McVeigh, Kadun Rees ac Isaac Thomas. Yn dilyn pnawn o areithio brwd o safon uchel iawn agorwyd y blychau pleidleisio. Cafodd blwyddyn 11, 12 a’r staff…

  • Taith I Stratfod-upon-Avon

    Wythnos diwethaf, aeth criw o’r chweched dosbarth ar daith ddiddorol a difyr i’r ddinas Shakespiraidd, Stratford-upon-Avon. Cafwyd diwrnod addysgiadol gan gynnwys darlithoedd gan arbenigedd ar ddrama gosod Shakespeare,  Dr Nick Walton a chyfle i ymweld â’r bwthyn le ganwyd y bardd enwog. Yn sicr, oedd y disgyblion wedi mwynhau’r profiad ac wedi elwa’n fawr o sesiynau Dr Walton ar…

  • Clwb Gwyddonwyr Gwyllt

    Mae ein clwb gwyddonwyr gwyllt yn cwrdd pob Dydd Iau yn ystod yr awr ginio i gael hwyl. Blwyddyn 12 sy’n rhedeg y cwb dan oruchwyliaeth aelod o’r staff wyddoniaeth. Heddiw gwnaethom swigod ENFAWR yn defnyddio’r rysáit isod: 6 cwpan o ddŵr ½ cwpan o flawd corn ½ cwpan o hylif golchi llestri 1 lwy…

  • Profion Cenedlaethol

    Amserlen Profion Cenedlaethol ar gael ar dudalen Arholiadau allanol.      

  • Newyddion Chwaraeon

    Gwnaeth tim merched pel-rwyd bl.7 yn hynod o dda yn ddiweddar, wrth iddynt gystadlu yn nhwrnamaint Pel-Rwyd Afan, Nedd a Tawe. Roedd 20 o ysgolion yn cystadlu, a gwanaeth y merched chwarae gyda ymroddiad arbennig. Dyma rhai o’r canlyniadau : Llangatwg 0-3 Esgob Vaughan 1-0 Gelli Fedw 0-1 Aethom drwyddo i ail rownd y plat, a…

  • Ysgoloriaeth i Fangor

    Llongyfarchiadau enfawr i Nerys Williams o flwyddyn 13 am ennill ysgoloriaeth mynediad gwerth £2500 i Brifysgol Bangor. Bydd Nerys yn mynd i astudio Cymraeg Creadigol a Cherddoriaeth Boblogaidd ym mis Medi. Rydyn ni fel adran yn hynod falch o’i llwyddiant hi. Pob dymuniad da i ti Nerys!

  • Cynhadledd Hawliau Plant ym Mryn Tawe!

    Ym mis Ionawr, cynhaliwyd Cynhadledd Hawliau Plant gan Gyngor Ysgol Bryn Tawe i gynghorau ein hysgolion cynradd. Mae Bryn Tawe wedi bod yn gweithio’n ddyfal dros y ddwy flynedd ddiwethaf i hybu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn o fewn yr ysgol ac hyfryd oedd cael croesawu dros 50 o ddisgyblion o ysgolion cynradd…