Category: CYMRAEG

  • Rownd Derfynol Siarad Cyhoeddus Cymru (ESU)

    Llongyfarchiadau gwresog i Manon, Rhys a Steffan (o flwyddyn 9) am gystadlu yn rownd derfynol cystadleuaeth siarad gyhoeddus yr ESU (English Speaking Union) yn Nhŷ Hywel, Bae Caerdydd ar ddydd Lun, 14eg Fawrth. Braint oedd cael eu gosod yn ail gan ystyried taw’r tro cyntaf i’r ysgol gystadlu yn y rownd derfynol. Mae cyrhaeddiad y…

  • Myfyrwyr y Chweched Dosbarth yn arwain ABCh!

    Yn dilyn gweithdai i Flwyddyn 12 gan yr elusen ‘Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth’ ar ddechrau’r flwyddyn, aeth myfyrwyr y Chweched ati’n ddiweddar i gynnal sesiynau ABCh i Flwyddyn 8 ar Hiliaeth. Roedd y sesiynau’n ffocysu ar ystradebu, defnydd cadarnhaol o eiriau ac hiliaeth o fewn y byd chwaraeon. Roedd yr adborth gan ddisgyblion…

  • Diwrnod y Llyfr 2016

    Dathlwyd Diwrnod y llyfr unwaith eto eleni gydag amrywiaeth o weithgareddau. Dechreuwyd y dathliadau gyda Gwasanaeth Diwrnod y Llyfr. Y chweched arweiniodd y gwasanaeth a oedd yn dathlu bywyd Roald Dahl am fod can mlynedd ers ei eni eleni. Dangoswyd DVD a grëwyd dros yr wythnosau diwethaf o aelodau o’r Chweched a rhai staff yn…

  • Seremoni Cadeirio 2016

    Cynhaliwyd Seremoni Cadeirio’r ysgol eleni eto ar Fawrth y 1af fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Dewi yr ysgol. Trosglwyddwyd yr awenau yn ôl yr arfer i brif swyddogion yr ysgol, sef Nerys Williams a Llŷr Davies. Eleni, cyn-ddisgybl i’r ysgol oedd yn beirniadu sef Naomi Steel. Braf oedd ei chroesawu nôl atom a chlywed…

  • Llongyfarchiadau!

    Llongyfarchiadau i Ffion Tomos bl.7 ar ennill cystadleuaeth i ysgrifennu cerdd i gofio’r Blits yn Abertawe. Darllenwyd y gerdd yn Eglwys y Sanets Fair mewn gwasanaeth i gofio 75 mlynedd ers y Blits.

  • Rhuthro i Rydychen

      Pleser yw nodi llwyddiant dau o ddisgyblion Bryn Tawe wrth sicrhau cynigion i astudio Saesneg ym mhrifysgol Rhydychen. Mae’n gyrhaeddiad arbennig i’r ysgol gan mai dyma’r myfyrwyr cyntaf yn hanes yr ysgol i gael y cyfle i astudio yn Rhydychen ac mae’r adran Saesneg yn hynod falch ohonynt. Bydd Rhys Griffiths-Underdown yn astudio Saesneg yng…

  • Llwyddiant ESU (unwaith eto!)

    Unwaith eto, rydym yn falch i gyhoeddi llwyddiant yn rownd ranbarthol cystadleuaeth ‘Performing Shakespeare’ a drefnwyd gan yr ESU (English Speaking Union) a chynhaliwyd yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama, Caerdydd a llongyfarchiadau gwresog i Steffan a Manon am y fuddugoliaeth yma! Maent wedi ennill lle yn rownd derfynol y gystadleuaeth a fydd y par…

  • Llyfryn Llythrennedd

    Llyfryn Cefnogi a Chyfoethogi

  • Ymweliad Busnes Blwyddyn 10

    Ar ddydd Mercher Ragfyr 16eg, fe aeth disgyblion Blwyddyn 10 Busnes i Ysgol Fusnes y Brifysgol Drindod Dewi Sant ar gyfer y digwyddiad ‘Big Business Bonanza’. Roedd y digwyddiad wedi rhoi cyfle i’r disgyblion cymryd rhan mewn nifer o weithdai busnes o farchnata i reolaeth chwaraeon. Gaeth y disgyblion amser hwylus ac rydym yn ddiolchgar…

  • Ffair Nadolig

    Ffair Nadolig  nos Fercher 2 Rhagfyr am 6.00 o`r gloch Eleni, bydd pob grŵp blwyddyn yn gyfrifol am roi eitemau i’r stondinau canlynol. BL.7 – Hamperi dosbarth lliw. BL.8 – Teganau meddal o safon dda. BL.9 – Gwobrau twba lwcus – wedi’u lapio a’u labelu ar gyfer bachgen neu ferch. BL.10 – Poteli – sudd,…