skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Covid-19

Llythyr Trefniadau Cau Mawrth 2020

Gweler y llythyr am fanylion o drefniadau cau ddydd Gwener 20/03/20: Trefniadau Cau Mawrth 2020

Corona Virus updates (CY)

Ein blaenoriaeth fel ysgol pob tro yw iechyd a lles ein disgyblion a staff. Rydym yn monitro’r sefyllfa iechyd bresennol yn agos ac yn parhau i gymryd cyngor gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Awdurdod Lleol Abertawe. Os yw eich plentyn yn arddangos rhai o’r symtomau, sef tymheredd uchel, peswch parhaol, teimlo’n brin o anadl neu lwnc tost, yna dilynwch y cyngor addas a sicrhau eu bodyn hunan-ynysu am y cyfnod a awgrymir. Gweler y ddau linc isod i safwe Iechyd Cyhoeddus Cymru a safwe ALl Abertawe:

Yn sgîl y datblygiadau cynyddol gyda sefyllfa lledaenu ‘coronavirus’, rydym wedi penderfynu fel ysgol i ganslo unrhyw weithgareddau allgyrsiol, nosweithiau ar gyfer rieni ac unrhyw ymweliadau i’r ysgol gan ddarparwyr allanol, allan o’r ysgol gan ddisgyblion a staff a gwasanaethau. Mi fyddwn yn parhau i gynnal cyfarfodydd gyda asiantaethau sydd yn cefnogi lles a chynnydd ein disgyblion. Bydd ein ffocws ar gynnal dysgu ac addysgu ein disgyblion yn y cyfnod yma.

Wrth baratoi ar gyfer sefyllfa ble fydd ysgolion o bosibyn cael eu gorfodi i gau, rydym wedi bod wrthi yn gwneud paratoadau ar gyfer cynnal cefnogaeth i’n disgyblion o bellter. Yn naturiol mae mynediad at adnoddau digidol yn hanfodol ar gyfer hyn er mwyn cael mynediad at grwpiau dysgu e.e. ‘Dosbarthiadau Hwb’ a ‘Microsoft Teams’. Rydym wedi casglu enwau disgyblion ble fyddwn yn benthyg offer digidol iddynt er mwyn gallu cael mynediad at yr adnoddau yma. Os oes angen offer ar eich plentyn, cysylltwch â’r ysgol. Yn ogystal, mae ein staff wedi paratoi pecynnau caled o waith i ddisgyblion er mwyn gallu parhau i weithio’n annibynnol adref os fydd angen.

Byddwn yn cysylltu gyda’ch plentyn a chithau drwy’r ap ‘Show My Homework’ er mwyn eich hysbysu o waith fydd yn cael ei osod. A wnewch chi sicrhau eich bod yn defnyddio hwn yn gyson er mwyn gallu cefnogi eich plentyn. Os nad oes mynediad gennych, yna cysylltwch gyda Mr Hywel Pugh ar ei e-bost: PughH25@hwbcymru.net neu drwy gysylltu gyda’r ysgol er mwyn iddo sicrhau mynediad ar eich cyfer.

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i annog disgyblion a staff i:

  • olchi eu dwylo’n aml gyda dŵr a sebon am o leiaf 20 eiliad (mae cyflenwad parhaus ar gael yn tai bach)olchi
  • eu dwylo bob tromaent yn cyrraedd adref neu’n cyrraedd y gwaith

ddefnyddio jel diheintio dwylo os nad oes dŵr a sebon ar gael (mae nifer fawr o’r peiriannau yma o gwmpas yr Ysgol)

  • orchuddio eu ceg a’u trwyn gyda hances boced neu lawes (nid eu dwylo) wrth beswch neu disian (ei ddal, ei daflu, ei ddifa)
  • roi hancesi poced yn y bin yn syth ar ôl eu defnyddio a golchu eu dwylo wedyn
  • geisio osgoi dod yn agos at bobl sy’n sâl
  • beidio â chyffwrdd eu llygaid, trwyn neu geg os nad yw eu dwylo’n lân.

Yn naturiol, rydym yn wynebu sefyllfa heriol iawn sydd hefyd yn newidiol iawn a fe wnawn bob ymdrech i’ch cadw mewn gwybodaeth (gwiriwch ein gwefan a’n cyfrif trydar -@bryntawe yn gyson). Cofiwch i gysylltu os oes unrhyw bryderon neu gwestiynau pellach gennych.