skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Covid-19

MESUR COFID NEWYDD – MYGYDAU MEWN GWERSI O’R 1af O RAGFYR

Gweler y llythyr pwysig isod yn amlinellu penderfyniad Llywodraeth Cymru am y disgwyliad i wisgo mygydau mewn gwersi unwaith eto:

Llythyr i rieni-Letter to parents 301121

NEGES GAN LYWODRAETH CYMRU AM Y FRECHLYN

BYDDWCH YN WYLIADWRUS: Rydym wedi cael gwybod am ffurflenni caniatâd
ffug ar gyfer y brechlyn sy’n cael eu dosbarthu mewn ysgolion gan grwpiau gwrth-frechlyn er mwyn creu ofn, anghydfod a drwgdybiaeth.

Byddwch yn wyliadwrus, rhannwch y rhybudd hwn gyda ffrindiau a theulu, a
gwnewch yn siŵr eich bod yn troi at ffynonellau dibynadwy i gael y ffeithiau:
Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 – Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru) .

ASESIAD LLAFAR SAESNEG TGAU

At sylw rhieni a disgyblion blwyddyn 11:

Yn anffodus, ac oherwydd cyfyngiadau staffio o ganlyniad i sefyllfa COVID-19, bu rhaid gohirio’r asesiadau llafar Saesneg i flwyddyn 11 ar gyfer wythnos nesaf. Bydd yr asesiadau yma yn cael ei ad-drefnu ar gyfer yr wythnosau cyntaf ar ôl hanner tymor. Ymddiheuriadau ond fel nodwyd uchod, mae’r sefyllfa yma tu hwnt i reolaeth.

Unwaith eto, gwerthfawrogwn ymdrech ac ymroddiad ein disgyblion wrth baratoi tuag at y dasg yma. Diolch i chi am eich cydweithrediad a phe bai cwestiwn, plîs cysylltwch â minnau drwy rif ffôn yr ysgol neu e-bostio ShawC36@hwbcymru.net

Mr Chris Shaw (Pennaeth Cynorthwyol a Phennaeth yr Adran Saesneg)

LLYTHYR DIWEDD TYMOR

Gweler y llythyr ‘diwedd tymor’ i rieni isod, sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth bwysig am drefniadau ail agor ym mis Medi:

Llythyr Rieni diwedd haf 2021 120721

Cofiwch bydd yr ysgol ar agor ar gyfer diwrnodau canlyniadau eleni am 08:30:

Edrychwn ymlaen yn fawr i ddathlu gyda’n disgyblion!

ACHOS POSITIF YM MLWYDDYN 7

At sylw rhieni disgyblion blwyddyn 7 a rhieni disgyblion blwyddyn 9 a 12 sy’n teithio ar fws 632B.

Yn anffodus, rydym yn cadarnhau bod gennym achos positif o Cofid ym mlwyddyn 7 yn yr ysgol. Gweler y llythyr isod am fanylion pwysig, gan gynnwys dyddiadau ynysu i bob disgybl ym mlwyddyn 7 a disgyblion 9 a 12 sy’n teithio ar fws 632B:

Rhieni disgyblion sydd yn gyswllt i achos positif (Bl.7) 050721

Cysylltwch gyda’r ysgol os ydych am drafod ymhellach.

PWYSIG – RHIENI BLWYDDYN 10

Bore da. Ga i ddiolch yn y lle cyntaf i’r holl ddisgyblion sydd yn glynu at y disgwyliadau ynysu i Flwyddyn 10 ar hyn o bryd. Diolch hefyd i rieni disgyblion Blwyddyn 10 sydd yn sicrhau bod eich plentyn yn ynysu. Sylweddolwn pa mor anodd ac anghyfleus yw hyn, ond sylweddolwn hefyd bwysigrwydd pam mae osgoi lledaenu’r feirws mor bwysig, gyda’r niferoedd yn codi yn Abertawe yn ddyddiol.

Yn anffodus iawn, mae hi wedi dod i’r amlwg bod rhai o ddisgyblion Blwyddyn 10 Bryn Tawe wedi anwybyddu rheolau hunan ynysu Cofid. Rydym fel ysgol wedi derbyn gwybodaeth am ddisgyblion sydd wedi bod yn cymdeithasu y tu allan i’r ysgol, er eu bod wedi derbyn cyfarwyddid clir gan TTP drwy’r ysgol i aros adref er mwyn osgoi lledaenu’r feirws. Ga i apelio ar bob disgybl unwaith eto i ddilyn y rheolau allweddol yma er lles iechyd pob un sydd yn rhan o gymuned yr ysgol. Yn yr un modd, rwy’n apelio ar rieni’r disgyblion yma o Flwyddyn 10 i sicrhau bod eich plentyn yn dilyn y rheolau pwysig yma.

Os ydych am drafod y mater ymhellach, plîs cysylltwch gyda ni yn yr ysgol.

ACHOS POSITIF NEWYDD YM MLWYDDYN 10

Yn anffodus, mae achos newydd o Gofid wedi ei gadarnhau ym mlwyddyn 10, sydd yn effeithio ar y dyddiadau ynysu i ddisgyblion blwyddyn 10 i gyd. Gweler y llythyr isod am fanylion

Rhieni disgyblion sydd yn gyswllt i achos positif (Bl.10) 02072021 (1)

Cysylltwch gyda’r ysgol os oes cwestiynau pellach.

ACHOS POSITIF YM MLWYDDYN 10

At sylw rhieni blwyddyn 10 yn unig:

Yn anffodus, rydym yn cadarnhau bod gennym achos positif o Cofid ym mlwyddyn 10 yn yr ysgol. Gweler y llythyr isod am fanylion pwysig, gan gynnwys dyddiadau ynysu i bob disgybl ym mlwyddyn 10:

Rhieni disgyblion sydd yn gyswllt i achos positif (Bl.10) 300621

Cysylltwch gyda ni yn yr ysgol os ydych am drafod ymhellach.

RHIENI BLYNYDDOEDD 7, 9, 10 a 12eg

Neges i rieni disgyblion ym mlynyddoedd 7, 9, 10 a 12eg:

Yn dilyn cadarnhad o achos positif ym mlwyddyn 8 yn yr ysgol, gweler y llythyr isod yn cadarnhau nad yw disgyblion 7, 9, 10 a 12eg yn gyswllt i’r achos ac felly yn gallu parhau i fynychu’r ysgol fel arfer:

Rhieni disgyblion sydd ‘ddim yn gyswllt’ i achos positif 250621

 

ACHOS POSITIF YM MLWYDDYN 8

At sylw rhieni blwyddyn 8 yn unig:

Gweler y llythyr isod am fanylion pwysig, gan gynnwys dyddiadau ynysu i bob disgybl ym mlwyddyn 8, yn dilyn cadarnhad o achos positif ym mlwyddyn 8:

Rhieni disgyblion sydd yn gyswllt i achos positif (Bl.8) 250621

Cysylltwch gyda ni yn yr ysgol os ydych am drafod ymhellach.