skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

MESUR COFID NEWYDD – MYGYDAU MEWN GWERSI O’R 1af O RAGFYR

Gweler y llythyr pwysig isod yn amlinellu penderfyniad Llywodraeth Cymru am y disgwyliad i wisgo mygydau mewn gwersi unwaith eto:

Llythyr i rieni-Letter to parents 301121

Newyddion allgyrsiol diweddar Adran y Gymraeg

Diolch yn fawr i Elin Meek a Robat Powell am ymuno yn rhithiol yng ngwersi bl.7 yn ddiweddar er mwyn sgwrsio â’r disgyblion am eu gwaith fel llenorion. Roedd y disgyblion wedi mwynhau’n fawr y cyfle i’w holi.

Da iawn i Haiden Hogg a Callie Davies am gyflwyno areithiau Siarad Cyhoeddus hyfryd un amser cinio yn trafod yr iaith Gymraeg, yn benodol ym myd addysg. Braf iawn oedd clywed eu dadlau tanllyd!

Cafodd griw o fl.11 y cyfle i fynychu Cynhadledd Heddwch Ysgolion Cymru ar lein. Cafwyd y cyfle i wrando ar gyflwyniadau gan amrywiol siaradwyr ac ymuno mewn gweithdai i drafod gyda disgyblion o ysgolion eraill, yr hyn y gellir ei wneud am gyfiawnder hinsawdd.

Diolch hefyd y tymor hwn i Adran y Gymraeg Prifysgol Aberystwyth am gynnal cyfres o ddarlithoedd i’r Chweched Dosbarth.

Tybed hefyd a gawsoch chi gyfle yn ddiweddar i weld gwefan Adran y Gymraeg:

https://adranygymraegbrynt.wixsite.com/website

 

LLYTHYR I RIENI BL.11

Gweler y llythyr isod at sylw rhieni disgyblion blwyddyn 11:

Llythyr Rhieni Bl.11 – Year 11 Letter 141121

LLYTHYR GAN FWRDD IECHYD PRIFYSGOL BAE ABERTAWE

Er gwybodaeth i rieni – gweler y llythyr isod oddi wrth Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe:

Llythyr i Rieni – Paracetamol_

Neges oddi wrth Gwasanaeth Nyrsio Ysgol

Mae’r gwasanaeth Nysrio Ysgol yn cynnig sesiynau galw heibio ar gyfer unrhyw blant a oedd yn absennol yn ystod y sesiynau brechu ffliw yn yr ysgol. Mi fydd y sesiynau yn dechrau dydd sadwrn y 6ed ac yn digwydd bob penwythnos yn mis Tachwedd rhwng 10yb a 4yh yn nghaeau chwarae Longlands Lane ym Margam, SA13 2NR (yr hen safle uned brofi COVID). Does dim angen apwyntiad. Mae’r sesiynau ar gyfer plant y derbyn I flwyddyn 11

Rhieni bl 12 a 13

Isod mae dolenni yn cynnwys gwybodaeth am waith y Coleg Cymraeg a’r manteision o barhau i astudio drwy’r Gymraeg neu’n ddwyieithog yn y brifysgol.  Hefyd mae gwybodaeth am eu hysgoloriaethau.

https://sway.office.com/DiEIu2ygD8uSy9Ul?ref=Link

http://www.colegcymraeg.ac.uk/cy/astudio/cymorthariannol/

Noson Sgiliau CA3

Gweler llythyr isod sydd yn amlinellu trefniadau noson sgiliau ar gyfer rhieni disgyblion blynyddoedd 7 i 9. Bydd y noson yn cael ei gynnal ar Microsoft Teams rhwng 5 a 6yp ar nos Fercher, 10fed Dachwedd. Anogwn bawb i fynychu.

Llythyr Noson Sgiliau CA3