skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

DIWEDDARIAD ARHOLIADAU 2020 BL.10, 11, 12 a 13eg

Mae CBAC a Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddu diweddariad pellach ar gyfer trefniadau barnu graddau ar gyfer arholiadau 2020. Gweler y llythyr perthnasol isod:

Blwyddyn 11 a 13eg: ARHOLIADAU 2020 BL.11+13

Blwyddyn 10: ARHOLIADAU 2020 BL10

Blwyddyn 12: ARHOLIADAU 2020 BL12

 

TREFNIADAU GWARCHOD ARGYFWNG I BLANT

Bydd yr Ysgol ar agor o ddydd Llun 23ain o Fawrth i ddisgyblion sydd angen gwarchod argyfwng rhwng 08:00 – 17:00. Gweler y cyngor diweddaraf gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn nodi y dylai rieni edrych ar bob opsiwn posib cyn defnyddio’r gwasanaeth gwarchod argyfwng. Mae hwn yn cyd-fynd gyda’r cyngor diweddaraf ar gyfer gwahanu cymdeithasol.

Dim ond y disgyblion i rieni sydd wedi llenwi ein holiadur fydd â chaniatâd i fynychu. Oes ydych yn ‘weithiwr allweddol’ ac yn cwrdd â meini prawf ein holiadur ni (danfonwyd ar neges destun nos Iau diwethaf), mae dal yn bosib ei lenwi os oes angen.

Rhaid i rieni gysylltu gyda’r pennaeth drwy e-bost i gadarnhau bod eu plentyn / plant yn mynychu. A oes modd i chi lenwi a dychwelyd y ffurflen manylion personol (yma) yn ogystal â’r ffurflen drefniadau (yma) er mwyn gallu mynychu.

BWYD I DDISGYBLION PRYDAU YSGOL AM DDIM:

Os yw eich plentyn yn deilwng ar hyn o bryd i bryd ysgol am ddim, bydd modd casglu pecyn bwyd o’r ysgol bob dydd tra bod eich plentyn i ffwrdd o’r ysgol. Llenwch yr holiadur yma cyn 10:00 ar ddydd Llun y 23ain o Fawrth os ydych am i ni drefnu pecyn ar gyfer eich plentyn: https://bit.ly/ArchebPYD-FSMOrder

Holiadur Gweithwyr Allweddol

Yn dilyn ymgynghoriad pellach wrth ymateb i’r argyfwng Covid-19, mae Awdurdod Addysg Leol Abertawe (mewn partneriaeth gyda llywodraeth Cymru) wedi dewis ail-bwrpasu ein hysgolion i roi cymorth i blant gweithwyr allweddol drwy ddarparu gofal plant argyfyngus (fel man cychwyn).

Diffinir gweithiwr allweddol ar hyn o bryd fel gweithwyr sydd yn gyflogedig o fewn y gwasanaethau argyfwng a gwasanaethau golau glas h.y. holl staff y GIG (Gwasanaeth Iechyd Cymru); yr heddlu; y frigâd dan; gweithwyr carchar; gweithwyr cymdeithasol a gweithwyr ysgol. Bydd y gwasanaeth yma ar gael rhwng oriau o 8yb a 5yp o ddydd Llun i Gwener ac wedi ei leoli (yn y lle cyntaf) yn ysgol bresennol eich plentyn.

Gofynnwn yn garedig i rieni sy’n weithwyr allweddol YN UNIG i ymateb i’r holiadur yma.

http://bit.ly/HoliadurGweithwyrAllweddol-KeyworkerQuest

Llythyr Trefniadau Cau Mawrth 2020

Gweler y llythyr am fanylion o drefniadau cau ddydd Gwener 20/03/20: Trefniadau Cau Mawrth 2020

Corona Virus updates (CY)

Ein blaenoriaeth fel ysgol pob tro yw iechyd a lles ein disgyblion a staff. Rydym yn monitro’r sefyllfa iechyd bresennol yn agos ac yn parhau i gymryd cyngor gan Lywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Awdurdod Lleol Abertawe. Os yw eich plentyn yn arddangos rhai o’r symtomau, sef tymheredd uchel, peswch parhaol, teimlo’n brin o anadl neu lwnc tost, yna dilynwch y cyngor addas a sicrhau eu bodyn hunan-ynysu am y cyfnod a awgrymir. Gweler y ddau linc isod i safwe Iechyd Cyhoeddus Cymru a safwe ALl Abertawe:

Yn sgîl y datblygiadau cynyddol gyda sefyllfa lledaenu ‘coronavirus’, rydym wedi penderfynu fel ysgol i ganslo unrhyw weithgareddau allgyrsiol, nosweithiau ar gyfer rieni ac unrhyw ymweliadau i’r ysgol gan ddarparwyr allanol, allan o’r ysgol gan ddisgyblion a staff a gwasanaethau. Mi fyddwn yn parhau i gynnal cyfarfodydd gyda asiantaethau sydd yn cefnogi lles a chynnydd ein disgyblion. Bydd ein ffocws ar gynnal dysgu ac addysgu ein disgyblion yn y cyfnod yma.

Wrth baratoi ar gyfer sefyllfa ble fydd ysgolion o bosibyn cael eu gorfodi i gau, rydym wedi bod wrthi yn gwneud paratoadau ar gyfer cynnal cefnogaeth i’n disgyblion o bellter. Yn naturiol mae mynediad at adnoddau digidol yn hanfodol ar gyfer hyn er mwyn cael mynediad at grwpiau dysgu e.e. ‘Dosbarthiadau Hwb’ a ‘Microsoft Teams’. Rydym wedi casglu enwau disgyblion ble fyddwn yn benthyg offer digidol iddynt er mwyn gallu cael mynediad at yr adnoddau yma. Os oes angen offer ar eich plentyn, cysylltwch â’r ysgol. Yn ogystal, mae ein staff wedi paratoi pecynnau caled o waith i ddisgyblion er mwyn gallu parhau i weithio’n annibynnol adref os fydd angen.

Byddwn yn cysylltu gyda’ch plentyn a chithau drwy’r ap ‘Show My Homework’ er mwyn eich hysbysu o waith fydd yn cael ei osod. A wnewch chi sicrhau eich bod yn defnyddio hwn yn gyson er mwyn gallu cefnogi eich plentyn. Os nad oes mynediad gennych, yna cysylltwch gyda Mr Hywel Pugh ar ei e-bost: PughH25@hwbcymru.net neu drwy gysylltu gyda’r ysgol er mwyn iddo sicrhau mynediad ar eich cyfer.

Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i annog disgyblion a staff i:

  • olchi eu dwylo’n aml gyda dŵr a sebon am o leiaf 20 eiliad (mae cyflenwad parhaus ar gael yn tai bach)olchi
  • eu dwylo bob tromaent yn cyrraedd adref neu’n cyrraedd y gwaith

ddefnyddio jel diheintio dwylo os nad oes dŵr a sebon ar gael (mae nifer fawr o’r peiriannau yma o gwmpas yr Ysgol)

  • orchuddio eu ceg a’u trwyn gyda hances boced neu lawes (nid eu dwylo) wrth beswch neu disian (ei ddal, ei daflu, ei ddifa)
  • roi hancesi poced yn y bin yn syth ar ôl eu defnyddio a golchu eu dwylo wedyn
  • geisio osgoi dod yn agos at bobl sy’n sâl
  • beidio â chyffwrdd eu llygaid, trwyn neu geg os nad yw eu dwylo’n lân.

Yn naturiol, rydym yn wynebu sefyllfa heriol iawn sydd hefyd yn newidiol iawn a fe wnawn bob ymdrech i’ch cadw mewn gwybodaeth (gwiriwch ein gwefan a’n cyfrif trydar -@bryntawe yn gyson). Cofiwch i gysylltu os oes unrhyw bryderon neu gwestiynau pellach gennych.

Diweddariad Sefyllfa Coronavirus

Cliciwch ar y linc ar gyfer gwybodaeth pellach  Llythyr COVID-19 160320

GWEITHGAREDDAU HYD AT DDIWEDD MAWRTH

SESIYNAU RHANNU ADNODDAU ADOLYGU RIENI 10,11,12 A 13eg

Yn sgîl y sefyllfa iechyd rydym ni i gyd yn gwynebu, rydym wedi penderfynnu gohirio’r sesiynau ‘adolygu gyda rhieni’ yn ystod yr wythnos hon. Felly ni fydd sesiynau i rieni bore ddydd Mawrth yr 17/03/20, ar ôl ysgol ar ddydd Mercher y 18/03/20 a bore dydd Iau y 19/03/20. Byddwn yn rhannu’r adnoddau roeddwn yn mynd i gyflwyno gyda chi ar ‘Show My Homework’ ac hefyd ar wefan yr ysgol. Yn ogystal, byddwn yn rhannu unrhyw adnoddau ychwanegol gyda’ch plentyn.

Ymddiheuriadau am y newid trefniadau, ond gobeithio eich bod yn deall ein sefyllfa. Cysylltwch gyda ni os ydych am gopïau caled o’r adnoddau.

CYSTADLEUAETH 7 BOB OCHR ROSLYN PARK

Fel ysgol rydyn wedi penderfynu tynnu allan o’r gystadleuaeth yma er mwyn diogelu iechyd a lles ein disgyblion mor bell ag y gallwn. Bydd unrhyw arian sydd wedi ei dalu yn cael ei ad- dalu i’r disgyblion.

NOSON RIENI BLWYDDYN 7 – 31/03/20

Mi fyddwn yn gohirio y noson rieni i flwyddyn 7 sydd wedi ei drafnu ar gyfer dydd Mawrth yr 31ain o Fawrth. Byddwn yn cysylltu gyda chi i gadarnhau dyddiad newydd.

 

Coronavirus

Wrth i ni barhau i ddilyn cyngor y DU, Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, mae’r Cyngor wedi ein cynghori bod pob ysgol yn Abertawe yn agored fel arfer ddydd Llun. Mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu’n barhaus a byddwn yn rhoi cyngor ar unwaith os bydd rhywbeth yn newid. Mae hefyd yn werth nodi bod nifer y diwrnodau y mae unrhyw ysgol ar agor a dyddiad gwyliau ysgol yn cael eu penderfynu gan Lywodraeth Cymru ac nid gan y Cyngor.

 Nid oes angen cymryd unrhyw fesurau ychwanegol uwchlaw’r cyngor sydd eisoes wedi’i ddarparu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, ewch i: https://phw.nhs.wales/coronavirus ac mae gwybodaeth gyffredinol yma ar gyfer y cyhoedd hefyd: https://www.swansea.gov.uk/coronavirusadvice.