Newyddion
Llwyddiannau Diweddar
Llongyfarchiadau mawr i Cameron Jenkins am ddod yn ail yng nghystadleuaeth Gwobr Goffa Dafydd Rowlands eleni ac i Elisha Davies am ddod yn drydydd! Estynnwn ein llongyfarchiadau i Anest Williams o Ysgol Gŵyr a oedd yn fuddugol eleni. Diolch yn fawr i Mr John Evans am feirniadaeth gynhwysfawr a chanmoliaethus. Mae ein diolch yn fawr hefyd i’r pwyllgor am ddarparu’r cyfle unwaith eto eleni i’n pobl ifanc ac am drefnu seremoni wobrwyo rithiol hyfryd.
Paratôdd criw o fl.10 fideo ar y thema ‘Heddwch’ ar gyfer cystadleuaeth Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru https://youtu.be/UvNgAd1lpL0, ac fe gyflwynon ni ein fideo Neges Heddwch ac Ewyllys Da i gategori arall. Mewn un fideo, soniodd ein disgyblion am eu hawydd i gael byd lle mae pawb yn dangos cariad, yn parchu ei gilydd, lle mae cyfle cyfartal i bawb a heddwch ar draws y byd. Cawsom dair gwobr gyntaf am ein fideos a braf oedd cael ymuno mewn seremoni wobrwyo rithiol o Langollen. Gellir gweld fideos o ymateb ein disgyblion i’r newyddion da ar gyfrif trydar yr adran.
13/07/2021, Lynwen Matthews
LLYTHYR DIWEDD TYMOR
Gweler y llythyr ‘diwedd tymor’ i rieni isod, sydd hefyd yn cynnwys gwybodaeth bwysig am drefniadau ail agor ym mis Medi:
Llythyr Rieni diwedd haf 2021 120721
Cofiwch bydd yr ysgol ar agor ar gyfer diwrnodau canlyniadau eleni am 08:30:
- Safon Uwch ac UG ar ddydd Mawrth y 10/08/21 (Trefniadau Canlyniadau UG / Trefniadau Canlyniadau Safon Uwch)
- TGAU ar ddydd Iau y 12/08/21 (Llythyr rhannu Graddau TGAU Haf 2021)
Edrychwn ymlaen yn fawr i ddathlu gyda’n disgyblion!
12/07/2021, Simon Davies
Pigiadau Blwyddyn 9
Fe fydd sesiwn dal i fyny ar yr 14eg o Orffennaf i’r disgyblion a wnaeth colli pigiadau ym mis Mehefin.
Cliciwch isod i ddarllen gwybodaeth ar y brechiad.
6/07/2021, Lynwen Matthews
Gweithgareddau bl12
Gwelir amserlen gweithgareddau i flwyddyn 12 o’r 5ed i’r 14eg o Orffennaf.
2/07/2021, Lynwen Matthews
Llongyfarchiadau i Cameron, Caitlin a Thea!
Llongyfarchiadau mawr i dri o fl13, sef Cameron Jenkins, Caitlin Thomas a Thea Wood, sydd wedi ennill ysgoloriaethau partneriaeth Prifysgol Aberystwyth. Mae Cameron yn mynd i astudio Cymraeg, Caitlin yn mynd i astudio Hanes a Thea yn mynd i astudio Amaethyddiaeth a Gwyddor Anifeiliaid.
30/06/2021, Lynwen Matthews
Gwahoddiad i Gofrestru ar gyfer cyrsiau Chweched Bryn Tawe
Byddwn yn croesawi disgyblion blwyddyn 11 i’r ysgol ar brynhawn ddydd Mawrth a dydd Mercher 6-7 o Orffennaf. Bydd hyn yn gyfle i chi gwrdd â Thim Chweched, Mr Ben Davies a Miss Catrin Lyall, i gofrestru ar gyfer eich pynciau ac i ofyn am gyngor os nad ydych yn sicr o’ch opsiynau.
Oherwydd cyfyngiadau Cofid, nid oes modd cynnal cyfarfod ar gyfer y flwyddyn gyfan.
Trefniadau:
Dydd Mawrth 6ed o Orffennaf am 13.30 yn y Neuadd Fawr: myfyrwyr dosbarthiadau 11T, 11A ac 11W
Dydd Mercher 7fed o Orffennad am 13.30 yn y Neuadd Fawr: myfyrwyr dosbarthiadau 11E ac 11B
Os nad yw’n bosib dod ar y dyddiad sydd wedi pennu, plis cysylltwch gyda Mr Carwyn Jenkins i drafod ymhellach.
Oes modd cwblhau’r Ffurflen Cofrestru gyda’ch manylion er mwyn cofrestru ar gyfer y prynhawn.
Edrychwn ymlaen i weld chi.
Tîm Chweched Bryn Tawe
30/06/2021, Carwyn Jenkins
LLYTHYR GAN GYFARWYDDWR ADDYSG ABERTAWE – DIWEDDARIAD COFID
Llythyr pwysig i rieni a disgyblion oddiwrth Mrs Helen Morgan-Rees, Cyfarwyddwr Addysg Abertawe:
23 06 21 Llythyr i rieni a gwarcheidiaid
25/06/2021, Simon Davies