skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

DECHRAU CYRSIAU TGAU Bl.9

Mae bl. 9 yn dechrau ar y gwaith o baratoi ar gyfer eu cyrsiau TGAU o’r 1af o Fehefin. Bydd bl.9 felly yn dilyn amserlen gosod gwaith CA4, yn y pynciau craidd a fesul colofn dewis.

Mae dosbarthiadau newydd yn SMHW ar gyfer y disgyblion ac hefyd mae dosbarthiadau ‘Teams’ wedi eu creu i bob dosbarth allgraidd.

Gweler yr amserlen a’r colofnau opsiwn isod: 

Gweler yr amserlen ddiweddaraf yma

Gweler golofnau opsiwn bl.9 yma

Bydd y disgyblion yn aros yn yr un dosbarthiadau yn y pynciau craidd.

GWISG YSGOL NEWYDD

Gweler diweddariad o’r llythyr yma â gwybodaeth am y newid i’n gwisg ysgol newydd. 

PONTIO BLWYDDYN 6

Disgyblion a Rieni blwyddyn 6 – gwelwch y llythyr yma gyda diweddariad am ein rhaglen bontio eleni. Gallwch weld ein polisi gwisg newydd yma.

Byddwn yn cysylltu gyda chi eto yn fuan ar ôl hanner tymor gyda rhagor o wybodaeth a gweithgareddau pontio ar eich cyfer. Plîs gwiriwch ein safwe a @bryntawe ar trydar yn gyson am wybodaeth – byddwn hefyd yn rhannu gyda’n ysgolion cynradd partner.

Hwyl am y tro a mwynhewch hanner tymor!  

COLOFNAU OPSWIN BL. 12 2020-21

Rydym wedi creu ein colofnau opsiwn ar gyfer disgyblion blwyddyn 12 2020-21. Maent wedi eu selio ar ddewisiadau y disgyblion sydd yn bwriadu dychwelyd i astudio yn ein 6ed Dosbarth mewn partneriaeth gydag Ysgol Gyfun Gŵyr. Gweler y colofnau yma.  

Gweler gwybodaeth ategol i esbonio proses gosod colofnau a dewis opsiynau yma. 

DYSGU O BELL DROS HANNER TYMOR

Gweler y llythyr yma am fanylion pellach am ein disgwyliadau ar gyfer dysgu o bell dros hanner tymor.

LLYTHYR GAN GYFARWYDDWR ADDYSG ABERTAWE

Gweler lythyr at ein rieni gan Mr Nick Williams, Cyfarwyddwr Addysg Dinas a Sir Abertawe: Llythyr at rieni 120520

DIWEDDARIAD GAN Y PENNAETH

Gweler y llythyr mwyaf diweddar yma: Llythyr 110520