Newyddion
OPSIYNAU BL.9
Mae colofnau ar gael i’ch plentyn wneud eu hopsiynau TGAU terfynol. Rydym wedi llwyddo i gael 91% o ddisgyblion yn dewis eu hopsiynau cyntaf. Er mwyn cwblhau dewisiadau terfynol eich plentyn, fe fydd ‘FFURFLEN’ ar gael yn nhîm B9 i chi lenwi rhwng 18:30 dydd Mawrth 03.05.2022 a 21:00 dydd Gwener 06.05.2022. Dim ond unwaith y byddwch yn gallu llenwi’r ‘FFURFLEN’ felly mae’n bwysig eich bod yn ystyried y dewisiadau yn ofalus.
Fe fydd rhai pynciau yn ymddangos mewn sawl golofn lle mae rhai ond yn ymddangos mewn un golofn, felly mae’n bwysig eich bod yn ystyried popeth ym mhob colofn cyn gwneud eich dewis terfynol. Sylwer, fe fydd Celf a Dylunio a Chelf Tecstilau yn cael eu dysgu o fewn yr opsiwn Celf.
3/05/2022, Simon Davies
TREFNIADAU BAE BYSIAU NEWYDD
Gweler y llythyr isod yn amlinellu’r trefniadau iechyd a diogelwch newydd wrth i ni baratoi i ddefnyddio’r bae bysiau newydd ar ddydd Mawrth y 03/05/22:
Llythyr Rieni – Bae Bysys newydd 250422
Neges i atgoffa rhieni / gwarcheidwaid y bydd yr ysgol ar gau ar ddydd Gwener yma’r 29/04/22, yn unol ag ysgolion Abertawe, fel diwrnod ‘Gŵyl y Banc’ i ddathlu jiwbilî platinwm y Frenhines.
27/04/2022, Simon Davies
LLYTHYR DIWEDD TYMOR
Gweler y llythyr isod ar gyfer diwedd tymor y Pasg sydd hefyd yn amlygu rhai digwyddiadau pwysig yn ystod y tymor nesaf:
Llythyr diwedd tymor Pasg 2022
05 04 22 Llythyr at Rieni a Gwarcheidiaid TERFYNOL
8/04/2022, Simon Davies
MESURAU COFID MEWN YSGOLION HYD AT Y PASG
Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru heddiw am newidiadau i fesurau Cofid ar gyfer y boblogaeth gyffredinol, gweler y neges bwysig isod gan Gyfarwyddwr Addysg Abertawe yn cadarnhau na fydd newidiadau i fesurau diogelu Cofid mewn ysgolion yn Abertawe hyd at y Pasg:
Cyngor yr Awdurdod Lleol ar gyfer mesurau rheoli heintiau ddim yn newid tan ddiwedd tymor.
Yn dilyn cyfarfod yr wythnos hon o’r Tîm Rheoli Digwyddiad cynghorir ysgolion i aros ar UCHEL ar Fframwaith Llywodraeth Cymru tan ddiwedd y tymor.
Cyn gynted ag y bydd gennym ddiweddariad pellach gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig ar orchuddion wyneb, profi dwywaith yr wythnos a gofynion hunan ynysu yn dilyn prawf LFT positif, byddwn yn ysgrifennu atoch eto.
Felly, ni fydd mesurau’n newid mewn ysgolion tan ar ôl Pasg, o leiaf.
25/03/2022, Simon Davies
DYSGU O BELL I FL. 9 25.03.22
Gweler y llythyr isod yn amlinellu ein trefniadau cau ar gyfer blwyddyn 9 YN UNIG ar ddydd Gwener 25.03.22 gyda darpariaeth dysgu o bell:
24/03/2022, Simon Davies
LLYTHYR HANNER TYMOR Y PENNAETH
Gweler y llythyr isod gyda manylion am drefniadau gorffen yr hanner tymor yma ac am ddychwelyd ar yr 28/02/22:
17/02/2022, Simon Davies
DIWEDDARIAD GAN GYFARWYDDWR ADDYSG ABERTAWE
Gweler y llythyr isod, at sylw rieni, gan Gyfarwyddwr Addysg Abertawe yn amlinellu diweddariadau mesurau mewn ysgolion:
20220202 Llythyr at Rieni a Gwarcheidiaid TERFNYNOL
6/02/2022, Simon Davies