Newyddion
NEWIDIADAU I DREFNIADAU DOSBARTHU PRYDAU YSGOL AM DDIM
Ni fydd talebau i’w defnyddio mewn archfarchnadoedd yn cael eu darparu gan Lywodraeth Cymru, fel sydd wedi ei grybwyll fel posibilrwydd. Yn hytrach, mae disgwyl i bob Awdurdod Lleol ddarparu system lleol.
O ddydd Llun y 27/04/20, byddwn yn darparu pecyn bwyd wythnos (fydd yn cynnwys bwyd y gallwch chi baratoi ar gyfer cinio pob dydd e.e. torth o fara, tin o diwna, ham, caws, creision, bisgedi ayb…) i bob disgybl sydd yn deilwng i BYD.
Rydym yn cynnig dosbarthu rhain ar ddydd Llun pob wythnos. Os ydych am dderbyn pecyn bwyd wythnos, yna llenwch yr holiadur yma ar gyfer pob plentyn o Fryn Tawe rydych am wneud cais: https://bit.ly/DosbPYD-FSMSdelivery.
Os ydych yn barod yn derbyn pecynnau gennym, nid oes angen i chi lenwi’r holiadur eto.
21/04/2020, Simon Davies
Offer Amddiffyn Personol – Misyrnau
Gwych gweld nifer o staff yn gwirfoddoli i gynhyrchu misyrnau ar gyfer gweithwyr gofal iechyd – dros 150 heddiw!
Os ydych yn riant sydd yn gweithio yn y sector gofal a byddech yn gallu manteisio ar ddefnyddio ‘miswrn’ yn eich gwaith dyddiol, neu yn gwybod am weithwyr yn ein cymuned allai fanteisio, yna cysylltwch gyda ni yn yr ysgol er mwyn trefnu eu casglu. Gweler y lluniau isod:
16/04/2020, Simon Davies
Cyngor COVID-19
Cyngor a syniadau defnyddiol gan awdurdod lleol Abertawe ar ddelio gyda’n sefyllfa bresennol yma
16/04/2020, Simon Davies
GWARCHOD ARGYFWNG AR BENWYTHNOSAU HEFYD
DIM OND I’W LENWI GAN RIENI SYDD YN WEITHWYR GOFAL IECHYD NEU YN GWEITHIO I’R GWASANAETHAU GOLAU GLAS (rhiant sengl neu deulu ble mae’r ddau riant yn gweithio yn y ddau faes yma):
Rydym yn cynnig y ddarpariaeth ofal plant argyfwng dros benwythnosau, gan ddechrau ar benwythnos y 11eg a’r 12fed o Ebrill (penwythnos y Pasg). Os ydych yn rhagweld y byddwch yn gorfod defnyddio’r gwasanaeth yma, llenwch yr holiadur yma: https://bit.ly/GwarchodPenwythnos-WeekendChildcare erbyn 09:00 ar ddydd Gwener yr 17eg o Ebrill. Ni fydd y penwythnosau ar gael i bob categori o weithwyr critigol.
8/04/2020, Lynwen Matthews
GRADDAU CANOLFAN
Llythyr i ddisgyblion ac i rieni disgyblion ym mlynyddoedd 11, 12 a 13eg: Llythyr-Bl11-12-a-13eg-060420
6/04/2020, Lynwen Matthews
GWARCHOD PLANT ARGYFWNG DROS Y PENWYTHNOS
Mae’r Awdurdod Lleol am i ni gynnig y ddarpariaeth ofal plant argyfwng dros benwythnosau, gan ddechrau ar benwythnos y 11eg a’r 12fed o Ebrill (penwythnos y Pasg). Dim ond ar gyfer gweithwyr critigol sydd yn gweithio i’r gwasanaethau golau glas, neu i weithwyr gofal iechyd fydd y gwasanaeth yma (rhiant sengl neu deulu ble mae’r ddau riant yn gweithio yn y ddau faes yma). Ni fydd y penwythnosau ar gael i bob categori o weithwyr critigol. Os ydych yn rhagweld y byddwch yn gorfod defnyddio’r gwasanaeth yma, llenwch y taflenni isod a’u danfon yn ôl i DaviesS456@hwbcymru.net erbyn ddydd Iau yr 2ail o Ebrill.
Cais Gofal Plant Argyfwng Penwythnos
Cymraeg COVID-19_Ffurflen Ganiatad Riantv1
31/03/2020, Lynwen Matthews
LLYTHYR I DDISGYBLION, RIENI / GWARCHODWYR
Gweler llythyr gan y Pennaeth: Llythyr 200331
31/03/2020, Lynwen Matthews