skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

LLYTHYR I RIENI BLWYDDYN 8

Gweler y llythyr isod yn amlinellu gwybodaeth bwysig am fanylion cwricwlwm Gwyddoniaeth bl.8 a’r cyswllt gydag ‘Addysg Perthnasoedd a Rhyw’:

Cwricwlwm Gwyddoniaeth bl.8

 

GWYBODAETH BWYSIG AM Y DDEDDF ‘ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL’ NEWYDD

Gweler y llythyron perthnasol isod (fesul blwyddyn ysgol eich plentyn), sy’n amlinellu’r newidiadau pwysig sydd wedi dod i rym yn unol â’r ddeddf ADY newydd:

At rieni disgyblion blwyddyn 7 a 10

At rieni disgyblion bl 8, 9, 11, 6ed a disgyblion sydd a datganiad

 

LLYTHYR DECHRAU TYMOR IONAWR 2022

Gweler y llythyr yma sy’n amlinellu’r trefniadau a’r disgwyliadau ar gyfer holl ddisgyblion yr ysgol wrth ddychwelyd i’r ysgol ar ddydd Iau’r 6ed o Ionawr:

Llythyr i rieni 050122

TREFNIADAU DYCHWELYD YR WYTHNOS HON

Blwyddyn Newydd Dda i’n holl rieni, gwarcheidwaid a disgyblion gan obeithio i chi gael cyfle ymlacio a mwynhau dros yr ŵyl.

Bydd llythyr i ddilyn yn cynnwys yr holl wybodaeth allweddol i rieni wrth ail agor ar ôl y Nadolig, ond hoffwn gadarnhau’r trefniadau canlynol ar gyfer yr wythnos yma:

DYDDIAD DYCHWELYD:

  • bydd disgyblion o bob blwyddyn yn dychwelyd i’r ysgol fel arfer o ddydd Iau y 06/01/21.

PROFION LFT:

  • mae disgwyl i BOB DISGYBL i gymryd prawf LFT ar ddydd Mercher ac ar fore dydd Iau cyn mynychu’r ysgol ddydd Iau yma.
  • Mae disgwyl i ddisgyblion gymryd 3 prawf LFT pob wythnos, ar ddydd Llun, Mercher a Gwener, er mwyn gallu mynychu’r ysgol.
  • Mae profion LTF ar gael o unrhyw fferyllfa neu lyfrgell leol.

GWERSI’R 6ED:

  • bydd gwersi’r 6ed yn digwydd yn fyw ym Mryn Tawe i ddisgyblion Bryn Tawe o ddydd Iau ac yn cael eu ffrydio o Gwyr ar ddydd Gwener. Ni fydd gwersi yn Gwyr ar ddydd Iau.
  • bydd gwersi yn cael eu ffrydio i ddisgyblion Gwyr o Fryn Tawe ar ddydd Iau a Gwener yr wythnos hon.

Edrychwn ymlaen i groeswi pawb yn ôl fore ddydd Iau!

TREFNIADAU AIL DDECHRAU MIS IONAWR

Gweler y llythyr isod a dolenni defnyddiol a phwysig ar gyfer trefniadau dychwelyd y mis Ionawr:

LLythyr i Rieni 161221 – Trefniadau Dywchwelyd yn Ionawr ’22

161221 Llythyr at Rieni a Gwarcheidiaid TERFYNOL

Gweithrediad Ysgolion – cwestiynau cyffredin LlC

Pecyn cefnogaeth ychwanegol i ddysgwyr – LlC

Siwmperi Nadolig

Gweler llythyr pwysig sy’n egluro cynlluniau’r ysgol i gefnogi ein cymuned dros y Nadolig.

Noson Rhieni Y Chweched Dosbarth