skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

DIWEDDRIAD ASESU AR GYFER CYMWYSTERAU

Fel y gwyddoch, mae Cymwysterau Cymru wedi rhannu llythyron gyda dysgwyr yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer pennu graddau TGAU a Safon Uwch eleni. Mae’r llythyr diweddaraf yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer cyrsiau Galwedigaethol – mae copiau o’r ddau lythyr isod:

Llythyr i Ddysgwyr – diweddariad i ganllawiau – 090221

250221 – Llythyr i Ddysgwyr – Galwedigaethol

Mae yna gyfle i ddisgyblion bl.11, 12 a 13 i fynychu sesiynau pynciol ychwanegol, os ydynt yn dymuno gwneud. Yn sicr byddant yn ddefnyddiol wrth adolygu a dysgu pellach. Defnyddiwch y ddolen isod i gael mynediad at y sesiynau:

https://sites.google.com/hwbcymru.net/cyrsiaucarlamcymru

DIWEDDARIAD HANNER TYMOR

Gweler y llythyr isod am ddiweddariad cyn gwyliau’r hanner tymor:

Llythyr i Rieni 080221

DIWEDDARIAD DYSGU O BELL

Diolch am eich ymateb i’r holiadur diweddar – braf nodi i ni dderbyn dros fil o ymatebion rhwng ein disgyblion, rhieni a staff. Yn dilyn yr ymatebion yma, rydym wedi edrych ar themâu cyson ble gallwn addasu a mireinio ein model bresennol, er lles ein disgyblion a’r staff. Gweler y manylion yn y llythyr isod:

Llythyr rhieni 260121 – Dysgu o Bell

NOSON AGORED RITHIOL Y 6ED – 27/01/21

Neges i rieni blwyddyn 11:

Gweler y llythyr isod gyda manylion am ein noson agored rithiol ar gyfer 6ed Bryn Tawe a Gŵyr, nos Fercher nesaf, y 27/01/21 am 6y.h.:

Llythyr noson agored ol-16 270121

Edrychwn ymlaen at eich cwmni ar y 27ain.

ADNODDAU DYSGU CYFRWNG CYMRAEG DEFNYDDIOL

Gweler y cysylltiadau isod ar gyfer gwefanau sydd yn darparu adnoddau defnyddiol i gefnogi a hybu dysgu disgyblion:

Blynyddoedd 7-9:

Nifer o bynciau – https://www.bbc.co.uk/bitesize/levels/zh6vr82

Fideos mewn pynciau amrywiol – https://www.youtube.com/channel/UCs8SM2ju1ZUyPwmxleZ2t_w/videos

Y Cliciadur – ymarferion llythrennedd (darllen a deall) – yma ; Archif y Cliciadur  – https://www.cynnal.co.uk/cliciadur/archif.php

Hwb – cliciwch yma

TGAU:

Pynciau amrywiol – https://www.bbc.co.uk/bitesize/levels/z8w76sg 

Y Bac – https://www.bbc.co.uk/bitesize/levels/z9wtgdm

Hwb – cliciwch yma

U / UG: 

Pynciau amrywiol – cliciwch yma

 

DYSGU O BELL – LLYTHYR GAN Y PENNAETH

Gweler y llythyr isod gyda diweddariad am ein darpariaeth dysgu o bell:

Llythyr i Rieni 150121

Cwblhewch yr holiadur i rieni yma

Cysylltwch gyda Mrs Nerys Vaughan – VaughanN9@hwbcymru.net i drefnu benthyg cliniadur.

DIWEDDARIAD AM GAU YSGOLION I DDISGYBLION A DYSGU O BELL

Neges bwysig i ddisgyblion a rhieni / gwarcheidwaid:

Mae’n bosib eich bod bellach yn ymwybodol o’r cyhoeddiad gan y Gweinidog Addysg y bore ‘ma y bydd ysgolion yn aros ar gau i ddisgyblion tan o leiaf y 29ain o Ionawr, neu hyd at hanner tymor Chwefror os nad yw lefelau lledaenu’r firws yn lleihau yn ddigonol. Gweler y negeseuon isod:

Covid: Online learning in Wales to continue as schools stay shut – BBC News

https://www.bbc.co.uk/cymrufyw/55580487

Yn sgìl hyn, mae Cymwysterau Cymru bellach wedi cyhoeddi y byddant yn canslo’r ffenestr asesiadau mewnol oedd wedi’u cynllunio i ddigwydd rhwng yr 22ain o Chwefror a’r 23ain o Ebrill. Gweler eu safwe am y neges:

https://www.qualificationswales.org/cymraeg/newyddion/?page=1&perpage=10&categories=&sortBy=byDate&fromDate=&toDate=&query=&publicationTypes=  

Byddwn yn parhau i gynnig gwasanaeth gwarchod argyfwng (dolen yma) a hefyd i gefnogi rhai disgyblion yn yr ysgol. Ein ffocws ni fydd parhau i ddysgu, drwy ddarparu gwersi o bell a gwaith ar lein, fel yr arfer bellach, a chefnogi lles ein disgyblion. Byddaf yn rhannu fwy o wybodaeth gyda chi maes o law, ond os oes unrhyw gwestiwn, neu gonsyrn gennych, plîs cysylltwch â ni i drafod, neu e-bostiwch: SwyddfaBrynTawe5@hwbcymru.net