Newyddion
Gweithredu Diwydiannol NASUWT 13.07.23
Gallwn gadarnhau y bydd aelodau o undeb NASUWT yn gweithredu’n ddiwydiannol ar ddydd Iau’r 13.07.23. Gweler y llythyr isod yn cadarnhau’r trefniadau ar gyfer ein disgyblion ar ddydd Iau:
Llythyr i Rieni – Gweithredu Diwydiannol 130723.docx
10/07/2023, Simon Davies
Siop Lyfrau a Bore Coffi
Fel rhan o ddathliadau Gŵyl Lenyddol, bydd siop lyfrau Tŷ Tawe a siop lyfrau Cover 2 Cover yn gwerthu llyfrau i ddisgyblion yfory (dydd Gwener, 7fed o Orffennaf) yn ystod yr awr ginio. Beth am annog eich plentyn i archebu llyfr er mwyn mwynhau darllen dros yr haf? Mae croeso i rieni flwyddyn 7 ymweld â’r Ŵyl Lenyddol yn ystod yr awr ginio (12:40yp i 1:30yp).
6/07/2023, Lynwen Matthews
Gweithredu Diwydiannol NASUWT 13.07.23
Gweler y manylion yn y llythyr isod yn amlinellu ein safbwynt ar unrhyw weithredu diwydiannol ar ddydd Iau’r 13eg o Orffennaf:
Gweithredu Diwydiannol NASUWT 130723
5/07/2023, Simon Davies
Ffair Haf
Ymunwch â ni am brynhawn llawn hwyl a gweithgareddau di-ri ar y 27ain o Fehefin! Bydd perfformiadau byw gan ein disgyblion ac mi fydd cyfle i weld arddangosfeydd o waith y Cyngor Ysgol. Mae yna dal lle ar gyfer ambell i stondin felly os hoffech chi gynnal stondin eich hun plîs cysylltwch â’r ysgol. Diolch am bob cefnogaeth.
8/06/2023, Emma Howells
Diwyddiad Elusennol i Jacob Crane
Cliciwch ar linc isod i weld gwybodaeth ar ddigwyddiad lleol sy’n cefnogi Jacob.
https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSeIo_s-ITxS8Vi-NNpmK7CuiYFYSyb2nvDEeWwPkKhRHo_RTQ/viewform
4/05/2023, Lynwen Matthews
OPSIYNAU TERFYNOL BLWYDDYN 9
At sylw Rieni bl.9:
Gweler y llythyr isod yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer gwneud dewisiadau terfynol ar gyfer pynciau TGAU eich plentyn:
Llythyr dewisiadau terfynol 23-25
Rydym wedi siarad gyda phob disgybl sydd â gwrthdaro pynciau o’r dewis agored gwreiddiol. Croeso i rieni gysylltu gyda ni i drafod ymhellach?
Y dyddiad cau ar gyfer cwblhau’r ffurflen yw dydd Llun 17.04.23.
Diolch
29/03/2023, Simon Davies