Newyddion
Nosweithiau rieni – Opsiynau TGAU bl. 9 a Chynnydd Bl.8
Rhieni bl. 9:
Yn sgil gorfod cau heddiw am resymau Iechyd a Diogelwch, byddwn hefyd yn gohirio’r noson opsiynau TGAU i ddisgyblion a rhieni bl.9 heno (08.03.23). Rydym wedi ail drefnu’r noson ar gyfer nos Lun y 13.03.23 i ddechrau am 17:00 yn yr ysgol. Byddwn yn addasu’r amserlen a’i rannu gyda rieni a disgyblion yn y diwrnodau nesaf. Er mwyn gallu ei wirio o flaen llaw, mae’r llyfryn opsiynau yn barod wedi ei rannu yn ‘Team Blwyddyn 9’ ac ar ein safwe ar y ddolen yma: https://www.bryntawe.swansea.sch.uk/prospectus/year-9-options_cy.pdf
Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra unwaith eto, gan edrych ymlaen at eich croesawi i’r ysgol i drafod dewisiadau TGAU pwysig eich plentyn nos Lun nesaf.
Rhieni bl.8:
Yn sgil y newid i noson opsiynau blwyddyn 9 uchod, bydd rhaid i ni ohirio noson rhieni bl. 8 hyd at Nos Fawrth y 25ain o Ebrill rhwng 16:00 – 18:30. Bydd unrhyw apwyntiadau sydd wedi eu gwneud yn addas ar gyfer y dyddiad newydd, ond mae croeso i rieni eu newid os oes angen? Ymddiheuriadau am yr anghyfleustra a diolch am bob cydweithrediad.
8/03/2023, Simon Davies
YSGOL AR GAU OHERWYDD YR EIRA 08.03.23
Bryn Tawe ar Gau heddiw am rhesymau diogelwch y safle oherwydd y tywydd. Mae’r cwmniau bysys yn gwybod a ni fydd bysys yn rhedeg. Ymddiheuriadau am unrhyw anghyfleustra.
8/03/2023, Simon Davies
GWEITHREDU DIWYDIANNOL 02.03.23
Gweler y llythyr isod yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer y gweithredu diwydiannol gan y ‘NEU’ ar gyfer dydd Iau’r 02.03.23:
Llythyr i Rieni – Gweithredu Diwydiannol 020323
RHIENI BL.9: sylwer y newid dyddiad i’r noson opsiynau TGAU ar gyfer blwyddyn 9. Bydd y noson nawr yn cael ei chynnal ar nos Fercher yr 8fed o Fawrth, gan ddedchrau am 6y.h.
22/02/2023, Simon Davies
GOHIRIO GWEITHREDU DIWYDIANNOL 14.02.23
Gweler y negeseuon isod ar gyfer rieni a gwarcheidwaid:
GOHIRIO’R STREIC:
Mae’r gweithredu diwydiannol a gynlluniwyd gan yr NEU ar y 14.02.23 wedi ei ohirio hyd at yr 02.03.23, er mwyn trafod y cynnig mwyaf diweddar gan Lywodraeth Cymru. Felly, bydd yr ysgol ar agor i bob disgybl fel arfer. Byddwn yn eich hysbysu am unrhyw newidiadau pellach cyn gynted â phosib.
FFUG ARHOLIADAU BL.10:
Byddwn yn glynu at yr amserlen wreiddiol, gyda’r arholiadau ag amserlenwyd ar gyfer ddydd Mawrth yn digwydd fel arfer.
HMS:
Nodyn i atgoffa am y diwrnod HMS sydd wedi ei gynllunio ar gyfer dydd Gwener yr 17eg o Chwefror. Felly, bydd yr ysgol ar gau i ddisgyblion.
Diolch.
9/02/2023, Simon Davies
GWEITHREDU DIWYDIANNOL 14.02.23
Gweler y llythyr isod yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer yr ail ddiwrnod o weithredu diwydiannol gan yr NEU ar ddydd Mawrth y 14eg o Chwefror:
Llythyr i Rieni – Gweithredu Diwydiannol 140223
7/02/2023, Simon Davies
GWEITHREDU DIWYDIANNOL I DDISGYBLION 7-10
Gweler y llythyr isod gyda manylion am sut fydd gwaith yn cael ei osod i ddisgyblion 7-10 ar ddydd Mercher y 01.02.23:
Llythyr i Rieni – Gwaith i ddisg 7-10 – 01.02.23
30/01/2023, Simon Davies
NEGES I RIENI – GWEITHREDU DIWYDIANNOL
Gweler y llythyr isod am fanylion pwysig y gweithredu diwydiannol ar y 01.02.23:
Llythyr i Rieni – Gweithredu Diwydiannol 010223
25/01/2023, Simon Davies