Newyddion
GWYBODAETH BWYSIG I RIENI
Gweler y llythyr diwedd tymor isod gan y Pennaeth, sydd yn amlinellu ein trefniadau dychwelyd ym mis Ionawr:
Llythyr diwedd tymor Rhag 2020
Yn ogystal, gweler llythyr gan Gyfarwyddwr Addysg Dros Dro Abertawe yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer diwedd y tymor:
18 12 20 Llythyr i rieni a gwarcheidiaid TERFYNOL
18/12/2020, Simon Davies
NEGES I DDISGYBLION 11-13eg
Yn dilyn y cyhoeddiad gan Kirsty Williams am gymwysterau 2021, gweler y llythyr sydd wedi ei atodi yn rhoi manylion pellach am y 3 math o asesiad yn ogystal ag amseriad a natur rhain. Nid oes mwy o wybodaeth ar hyn o bryd, ond rydym yn disgwyl clywed mwy yn gynnar ym mis Ionawr gan CBAC – gweler yr amserlen ar gyfer asesiadau 2021 yma. Yn naturiol, byddwn yn rhannu popeth gyda chi pan gawn ni fwy o wybodaeth.
17/12/2020, Simon Davies
Newyddion diweddar Adran y Gymraeg
Roedd y chweched sy’n astudio Cymraeg Safon Uwch wrth eu boddau yn ddiweddar yn cael cwmni Caryl Lewis ar zoom mewn gwers Gymraeg. Cawsom wledd yn clywed amdani yn son am ei gyrfa a thrafod y nofel ‘Martha, Jac a Sianco’. Diolch yn fawr hefyd i Aneirin Karadog am ymuno yn rhithiol mewn gwers Gymraeg i fl.11 yn ddiweddar yn trafod ei gerdd ‘Gweld y Gorwel’ a sôn am fanteision astudio Cymraeg Safon Uwch.
Cynhaliwyd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus y Rotari eleni yn rhithiol. Y tri a baratodd fideo ar gyfer y gystadleuaeth eleni oedd Jack Thomas o fl.12, Morgan Davies o fl.11 a Sion Thomas o fl.11. Teitl eu dadl oedd “Gwastraff arian yw Prifysgol yn 2020”.
Cymerodd Mirain Owen o fl.11 ran yng Ngŵyl Gerallt eleni a chyfrannu at banel o bobl ifanc yn trafod llenyddiaeth Gymraeg. Ysgrifennodd Mirain hefyd y gerdd hon yn ddiweddar fel cofnod o’r Cyfnod Clo.
Y Gofid Mawr
Deffro yn y bore a mwynhau’r dydd yn llwyr
Gorwedd yn y gwely o fore gwyn tan hwyr,
Gwrando ar gerddoriaeth a rapyrs cŵl a’u cri…
Daeth y Cyfnod Clo a rhyddid braf i mi.
Doedd dim arholiadau na bwyd o’r ffreutur chwaith
Aros o flaen Netfflics heb orfod gwneud dim gwaith,
Dim angen caniatad na chodi llaw i pî…
Daeth y Gofid Mawr a byd heb loes i mi.
Codi ganol pnawn i fwyta brecwast mawr
Wy a bacwn blasus dim ots beth oedd yr awr,
Mynd at lan y môr i syrffio ar y lli…
Daeth yr holl ynysu a bywyd llawn i mi.
Protest Black Lives Matter yn dod a’r pwnc yn nes,
Pobl ifanc Cymru yn agosau at Yes,
Neb yn gwisgo welis i Steddfod fwd a bri…
Daeth yr locdawn cyntaf a’r byd i’n lolfa ni.
Zoomio i Ddolgellau heb orfod adael tŷ,
Siarad bob un diwrnod am straeon hurt datcu,
Mynd am dro hyd afon, melltithio baw pob ci…
Daeth y cyfyngiadau a’r fro i’m golwg i.
Mynd i’r banc mewn mwgwd a neb yn holi pam
Neb yn gweiddi ‘stick ‘em up’ nac edrych arnai’n gam,
Golchi llaw bob munud, sdim germau arna i…
Daeth y cyfnod budr a glendid llwyr i ni!
Neb yn mynd ar wyliau a neb yn mynd i’r cwrdd,
Neb yn gwylio’r Elyrch a pawb yn tŷ rownd bwrdd,
Ac wedi’r cyfnod hyfryd o fisoedd braf di-ri…
Ysu am yr ysgol oedd fy hanes i!
Mirain Owen
Gobeithio y cewch gyfle i fwynhau ein gwasanaeth Nadolig rhithiol eleni, yn cynnwys darlleniadau Beiblaidd gan y Chweched, cerddi ysgafn wedi’u perfformio gan fl.7, a gwirfoddolwyr o fl.8 i 11 yn darllen cerddi. Dyma’r linc i chi wylio https://youtu.be/IoHCiPzr0ow
14/12/2020, AAM
DIWEDD TYMOR – DYSGU CYFUNOL O’R 14-18/12/20
Gweler y llythyr isod yn esbonio ein trefniadau ni ar gyfer diwedd y tymor yn dilyn cyhoeddiad LlC bod ysgolion uwchradd yn symud at fodel o ddysgu cyfunol:
LLythyr i Rieni 101220 – Dysgu o Bell Diwedd Tymor
Gweler y llythyr isod gan Gyfarwyddwr Addysg Dros Dro Abertawe yn esbonio’r penderfyniad ar draws yr ALl:
10 12 20 Llythyr i rieni a gwarcheidwaid
10/12/2020, Simon Davies
NEWID I’R CYFNOD YNYSU – NEGES BWYSIG I RIENI
Gweler y llythyr isod yn amlinellu ein cynlluniau ni yn dilyn cyhoeddiad LlC am y newid i’r cyfnod hunan ynysu:
Llythyr i rieni – newid cyfnod ynysu 091220
9/12/2020, Simon Davies
NEGES BWYSIG I RIENI BL9, 12 a 13eg
Gweler y llythyr isod i rieni disgyblion bl. 9, 12eg a 13eg yn unig:
Rhieni disgyblion sydd ‘ddim yn gyswllt’ i achos positif 041220
7/12/2020, Simon Davies
LLYTHYR GAN Y CYFARWYDDWR ADDYSG DROS DRO
Gweler y llythyr isod gyda gwybodaeth am ddiwedd y tymor gan Gyfarwyddwr Addysg Dros Dro Abertawe:
04 12 20 Llythyr i Rieni a Gwarcheidwaid
4/12/2020, Simon Davies