Newyddion
Noson i gyflwyno gwybodaeth am geisiadau prifysgol a’r broses UCAS
Medi 2020
Noson i gyflwyno gwybodaeth am geisiadau prifysgol a’r broses UCAS
Annwyl fyfyriwr/ rhiant/ gwarcheidwad,
Cynhelir noson i rieni Blwyddyn 13 er mwyn cyflwyno gwybodaeth ar y broses UCAS, cyllid myfyrwyr a materion perthnasol eraill, ar nos Fercher, Medi’r 23ain am 6:00 o’r gloch dros Teams.
Mae eich plentyn wedi derbyn gwahoddiad i ymuno gyda’r cyfarfod drwy eu hebost hwb, ond gellir ymuno gyda’r cyfarfod hefyd drwy’r calendr yn teams.
Bydd cynrychiolydd o Brifysgol De Cymru yn gwneud cyflwyniad er mwyn rhannu gwybodaeth ac i ateb unrhyw gwestiynau perthnasol. Yn ystod y noson byddwn hefyd yn medru trafod nifer o faterion sy’n codi yn ystod y flwyddyn bwysig hon, er enghraifft:
- Arholiadau ail-sefyll,
- Systemau monitro cynnydd Blwyddyn 13,
- Dyddiadau mewnol allweddol ar gyfer cyflwyno ceisiadau,
- Ceisiadau ar gyfer cyrsiau meddygol,
- Ceisiadau ar gyfer colegau Rhydygrawnt,
- Pwysigrwydd gwneud y dewisiadau iawn,
- Pwysigrwydd y datganiad personol / ymchwilio i brentisiaethau
- Graddau darogan,
- Ymweliadau â cholegau,
- Y broses UCAS ei hun,
- Cyllid a grantiau.
Mae hwn yn gyfnod cyffrous, a’n bwriad yw gweithio’n agos gyda’r myfyrwyr a’u teuluoedd er mwyn sicrhau’r cyfleon gorau ar gyfer myfyrwyr Bryn Tawe.
Gobeithiwn yn fawr iawn y byddwch yn medru mynychu’r noson.
Yn gywir,
Mr Ben Davies
(Pennaeth y Chweched).
16/09/2020, Eirian Leonard
DIWEDDARIAD TAITH CANADA
Gweler y llythyr isod ar gyfer diweddariad i Daith Canada yn Hydref 2021.
Diweddariad Taith Canada Medi 2020
11/09/2020, Simon Davies
LLYTHYR GAN Y CYFARWYDDWR ADDYSG DROS DRO YN ABERTAWE
Gweler y llythyr pwysig yma gan y Cyfarwyddwr Addysg dros dro yn Abertawe:
Llythyr gan y Cyfarwyddwr Dros Dro_Medi 2020
11/09/2020, Simon Davies
DIWEDDARIAD I RIENI 11/09/20
Gweler y llythyr gyda diweddariad am ddyddiadau HMS; cinio ysgol; gwersi Addysg Gorfforol; gwisg ysgol ac amserau’r dydd i’r Chweched.
11/09/2020, Simon Davies
DIWEDDARIAD I DREFNIADAU MIS MEDI
Gweler y wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer trefniadau mis Medi yma. Mae yna ddiweddariad i’r trefniadau yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru am y defnydd o orchuddion wyneb, yn ogystal â chanllawiau cludiant ysgol i rieni a disgyblion:
Llythyr Gorchudd Wyneb Awst 2020
Trefniadau Cofid – Gwybodaeth i Rieni Medi 2020v3 cym
Canllawiau Cludiant Ysgol i rieni a disgyblion 270820
Llythyr yr ALl i Rieni 27/08/20
28/08/2020, Simon Davies
TREFNIADAU MEDI 2020
Gweler y llythyr isod a’r daflen wybodaeth ar gyfer manylion pwysig i ddisgyblion a rieni cyn dychwelyd i’r ysgol ym mis Medi. Byddwn yn cadarnhau’r trefniadau pendant ar gyfer gwisgo mygydau yn y diwrnodau nesaf.
Trefniadau Cofid – Gwybodaeth i Rieni Medi 2020
26/08/2020, Simon Davies
LLYTHYR ESBONIO GRADDAU ASESU CANOLFAN TGAU
Gweler y llythyr isod yn esbonio’r broses newydd o gymeradwyo ‘Graddau Asesu Canolfan’ TGAU.
Edrychwn ymlaen i’ch gweld yfory.
19/08/2020, Simon Davies