skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

LLYTHYR GAN GYFARWYDDWR ADDYSG ABERTAWE

Gweler y llythyr isod yn amlinellu pwysigrwydd presenoldeb dyddiol i bob disgybl:

221017 Letter to parents and carers Cymraeg[27901]

Angladd y Frenhines – 19.09.22

Gweler y llythyr isod yn cadarnhau trefniadau gŵyl y banc ar y 19.09.22:

Llythyr Rieni – Angladd y Frenhines 190922

 

GWYBODAETH BWYSIG DECHRAU TYMOR

Gweler y llythyr isod gyda gwybodaeth bwysig ar ddechrau’r tymor:

Gwybodaeth dechrau tymor Medi ’22

Polisi ffonau symudol newydd: cliciwch yma

Polisi gwisg ysgol: cliciwch yma

Ffurflen casglu data: cliciwch yma

Polisi presenoldeb: cliciwch yma

Llythyr dechrau tymor Medi 2022

Gweler y llythyr isod gyda gwybodaeth am drefniadau dechrau’r tymor, yn ogystal am gefnogaeth ariannol sydd ar gael i ddysgwyr a rhieni. Mae manylion hefyd ar gyfer cynllun i ail-ddosbarthu unrhyw wisg ysgol ail law mae rhieni yn barod i roi i’r ysgol.

Llythyr dechrau’r flwyddyn 22-23.docx

LLYTHYR DIWEDD TYMOR HAF 2022

Gweler llythyr diwedd tymor haf 2022 isod:

Llythyr diwedd tymor – Haf 2022

DYDDIADAU PWYSIG RHWNG NAWR A DECHRAU’R TYMOR

Gyda diwedd y tymor yn nesáu yn gyflym iawn hoffwn rannu rhai dyddiadau pwysig gyda chi rhwng nawr a dechrau’r flwyddyn academaidd nesaf:

DIWEDD TYMOR

Gwener 22.07.22 – HMS – dim ysgol i ddisgyblion

CANLYNIADAU SAFON UWCH A TGAU

Iau 18.08.22 – Canlyniadau Safon Uwch ac UG – bydd yr ysgol ar agor rhwng 08:30 – 12:00

Iau 25.08.22 – Canlyniadau TGAU – bydd yr ysgol ar agor rhwng 08:30 – 12:00

DECHRAU TYMOR YR HYDREF 2022-23

Llun 05.09.22 – HMS – dim ysgol i ddisgyblion

Mawrth 06.09.22 – HMS – dim ysgol i ddisgyblion

Mercher 07.09.22 – Blwyddyn 7, 12 a 13eg yn unig i fynychu’r ysgol

Iau 08.09.22 – Pob disgybl yn dychwelyd Bl. 7-13eg

NEWID I FESURAU COFID MEWN YSGOLION

Ysgrifennodd Lywodraeth Cymru at ysgolion wythnos diwethaf i dynnu ein sylw at rai newidiadau sydd ar ddod mewn perthynas â chyngor iechyd y cyhoedd coronafeirws ar gyfer ysgolion a lleoliadau. Bydd hyn yn dod ag ysgolion yn
agosach at weddill y gymdeithas gan na fydd angen gorchuddion wyneb mwyach ar staff ysgol a disgyblion ysgolion uwchradd wrth symud o gwmpas adeiladau ac mewn mannau cymunedol o ddydd Llun y 9fed o Fai 2022.

Bydd disgyblion a staff fydd dal i ddymuno gwisgo gorchudd wyneb yn cael eu cefnogi’n llawn i wneud hynny.

Byddwn yn parhau i gynnal mesurau diogelu arall e.e. golchi / diheintio dwylo yn aml, awyru ystafelloedd dosbarth a’r system un-ffordd o gwmpas yr ysgol.