Newyddion
TREFNIADAU CASGLU CANLYNIADAU TGAU
Gweler y llythyr yma ar gyfer ein trefniadau i ddosbarthu canlyniadau TGAU ar ddydd Iau yr 20fed o Awst.
Trefniadau’r safle ar gyfer Blwyddyn 11eg:
- Byddwn yn agor y drysau am 08:30.
- Gweler y tabl isod ar gyfer casglu eich canlyniadau:
Dosbarth Cofrestru | Lleoliad i gasglu canlyniadau |
Mynedfa/Allanfa
|
11HP (Mr Pugh)
11RJ (Mrs Jenkins) 11LJM (Miss Miller) |
Neuadd Fawr | Drysau glas ger mynedfa’r ganolfan hamdden |
11LKM (Miss Morgan)
11RhLl (Mr Llwyd) |
Neuadd Cilfwnwr
|
Mynedfa – drws wrth y grisiau Gwyrdd Allanfa – drws wrth y grisiau Coch |
PARCIO:
- NEUADD FAWR: defnyddiwch yr ardal barcio ‘saethben’ y tu allan i giatiau’r ysgol.
- NEUADD CILFWNNWR: defnyddiwch y buarth blaen ar gyfer parcio.
- Dilynwch yr arwyddion ar gyfer pellter cymdeithasol ar hyd y llawr gwaelod.
- Ni fydd mwy na 10 disgybl yn gallu bod yn y neuadd ar yr un amser.
- Bydd angen i rieni aros yn y maes parcio, gan sicrhau eu bod yn cynnal pellter cymdeithasol ar bob adeg.
- Disgwylir i bob disgybl sydd am wneud cais i ddychwelyd i’r Chweched lenwi ffurflen gofrestru wedi derbyn eu canlyniadau ‘fory.
- Bydd cyfle i drafod opsiynau’r Chweched, neu unrhyw lwybr dysgu pellach gyda’r staff yr ysgol neu’r swyddog gyrfau. Byddwn yn gweithredu system giwio yn y ddwy neuadd ar gyfer y cyfweliadau yma.
19/08/2020, Simon Davies
CANLYNIADAU SAFON UWCH AC UG
Newyddion da:
Braf yw rhannu cyhoeddiad y Gweinidog Addysg brynhawn yma https://llyw.cymru/datganiad-gan-kirsty-williams-y-gweinidog-addysg yn cadarnhau bydd pob disgybl bl. 12 a 13eg nawr yn derbyn y ‘radd ag aseswyd gan y ganolfan’.
Fel y gwyddoch, gradd asesiad y ganolfan oedd barn broffesiynol yr ysgol o’r radd fwyaf tebygol y byddai myfyriwr wedi’i chael pe bai’r arholiadau wedi mynd ymlaen. Roedd yn seiliedig ar ystyriaeth ofalus o ystod o dystiolaeth gan gynnwys ffug arholiadau, asesiad di-arholiad ac unrhyw gofnod arall o berfformiad myfyrwyr dros y cwrs astudio. Roedd pob pwnc yn ystyried ystod addas o dystiolaeth ar gyfer eu cwrs. Cafodd bob gradd a threfn restrol eu gwirio a’u llofnodi’n fewnol gan ddau athro, eu gwirio gan yr UDA cyn eu cyflwyno i’r byrddau arholi yn derfynol gan y Pennaeth ar gyfer eu dyddiad cau ym mis Mehefin.
Rydym yn aros am wybodaeth pellach o sut y bydd y graddau yn cael eu rhannu’n swyddogol gyda’r disgyblion a chyn gynted y byddwn yn gwybod, byddwn eu rhannu gyda pob un o’n disgyblion drwy e-bost.
Cadwch lygaid ar ein safwe, ein cyfrif Trdyar, ar SMHW ac unrhyw negeseuon destun gyda gwybodaeth pellach.
17/08/2020, Simon Davies
CASGLU CANLYNIADAU SAFON UWCH AC UG
Gweler y llythyr yma yma ar gyfer ein trefniadau i ddosbarthu canlyniadau safon uwch ac UG ar ddydd Iau 13eg o Awst.
Trefniadau’r safle ar gyfer Blwyddyn 13eg:
- Byddwn yn agor y drysau am 08:30.
- Mynedfa – defnyddiwch y drysau wrth y ‘Grisiau Gwyrdd’ i ddod i mewn i’r adeilad ac yna ewch yn syth i neuadd Cilfwnwr i gasglu eich canlyniadau.
- Allanfa – defnyddiwch y drysau wrth y grisiau Coch wrth adael.
- Dilynwch yr arwyddion ar gyfer pellter cymdeithasol ar hyd y llawr gwaelod.
- Ni fydd mwy na 20 disgybl yn gallu bod yn y neuadd ar yr un amser.
- Bydd angen i rieni aros yn y maes parcio, gan sicrhau eu bod yn cynnal pellter cymdeithasol ar bob adeg.
Dymuniadau gorau i bob un o’n disgyblion!
12/08/2020, Simon Davies
NEGES GAN Y CYFARWYDDWR ADDYSG
Gweler y llythyron yma:
Llythyr Diwedd ‘Tymor_Disgyblion
Llythyr Diwedd ‘Tymor_Staff a Rhieni
17/07/2020, Simon Davies
TREFNIADAU DIWRNODAU CANLYNIADAU
Canlyniadau Safon Uwch:
Bydd canlyniadau blwyddyn 13eg a 12eg yn cael eu dosbarthu ar ddydd Iau y 13eg o Awst. Gweler y llythyr yma am fanylion.
Canlyniadau TGAU:
Bydd canlyniadau blwyddyn 11eg yn cael eu dosbarthu ar ddydd Iau yr 20fed o Awst. Gweler y llythyr yma am fanylion.
17/07/2020, Simon Davies
TREFNIADAU DYCHWELYD YM MIS MEDI
Gweler y llythyr yma sydd yn amlinellu ein trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion yn ôl i Fryn Tawe ym mis Medi.
Byddwn yn cysylltu â rieni unwaith eto ar ddiwedd mis Awst gyda threfniadau pellach. Hefyd, bydd llythyr yn amlinellu’r trefniadau ar gyfer casglu canlyniadau i ddilyn yfory.
Diolch i’n rieni a’n disgyblion am eich cefnogaeth yn ystod y flwyddyn ac yn enwedig yn ystod y cyfnod ers i ni gau ym mis Mawrth – hoffwn ddymuno haf hapus i bob un ohonoch!
16/07/2020, Simon Davies
SEREMONI FFARWELIO BL.11
GWAHODDIAD BLWYDDYN 11 – Seremoni Ffarwelio
Hoffwn eich gwahodd chi, flwyddyn 11, i seremoni ffarwelio ar TEAMS ar ddydd Gwener 17eg o Orffennaf (dydd Gwener yma!).
Oherwydd y sefyllfa ddigynsail, nid ydym wedi cael cyfle i ffarwelio gyda chi’n ffurfiol eto eleni ac, er eich bod chi wedi gorffen gyda ni yn barod, hoffwn gymryd y cyfle i ffarwelio’n fwy ffurfiol cyn diwedd y flwyddyn academaidd.
Er mwyn ymuno bydd angen mewngofnodi i HWB, mynd mewn i’ch ap TEAMS, edrych trwy eich calendr ac wedyn ymuno gyda’r ‘cyfarfod’ bydd wedi’i drefnu ar gyfer ein tîm ‘Blwyddyn 11 Bugeiliol’. Byddwn yn dechrau am 2 o’r gloch y prynhawn ac wedi gorffen o fewn rhyw 45 munud. Cofiwch mewngofnodi 10 munud yn gynnar er mwyn osgoi problemau technegol yn amharu arnoch chi’n gallu ymuno mewn!
Tra ein bod ni yn brysur yn trefnu ar ein hochr ni, gofynnwn yn garedig eich bod chi yn dilyn y linc (https://flipgrid.com/seremoniffarwelio) i ‘flipgrid’, ble gallwch chi adael neges neu atgof hapus i weddill disgyblion y flwyddyn gael gwylio. Bydd angen bod eich clip fideo yn y Gymraeg ac yn ddim mwy na 2 funud o hyd.
Os hoffai unrhyw un helpu finnau gyda threfniadau plîs cysylltwch gyda fi trwy e-bost (Toot-EvanN@hwbcymru.net) ac fe wna i roi rôl i chi. Neu, os oes gyda chi luniau ohonoch chi a’ch criw ffrindiau gallwch ddanfon rhain ataf ac fe wna eu coladu i mewn i fideo i chi gyd i weld a mwynhau.
Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi ar ddydd Gwener – lledaenwch y neges fel bod cymaint â phosib yn gallu ymuno!
Diolch,
Mrs Tootill-Evans
15/07/2020, Simon Davies