skip to main content
phone facebook email twitter youtube trophy

Ysgol Gyfun Gymraeg Bryn Tawe

Newyddion

AMSERLEN GWAITH CARTREF

Bydd newid i’r amserlen gosod gwaith yn digwydd pan fyddwn yn ail agor ar y 29/06/20. Ni fydd gwaith yn cael ei osod yr wythnos hon wrth i ni baratoi i ddychwelyd, ond gofynnwn i ddisgyblion sicrhau eu bod yn cwblhau’r gwaith cafodd ei osod wythnos ddiwethaf (15-19/06/20) erbyn y diwrnod cyntaf y byddwch yn dychwelyd i’r ysgol.

Os nad ydych yn bwriadu dychwelyd tan fis Medi, byddwn ni’n dal i osod gwaith yn wythnosol. Bydd y gwaith newydd yn cael ei osod ar y diwrnod y mae eich blwyddyn chi yn mynychu ysgol o’r 29/06/20 tan ddiwedd y tymor. Byddwn yn eich cynorthwyo, yn yr ysgol neu o bell, i drefnu eich amser i gwblhau’r gwaith.

Mae croeso hefyd i chi gwblhau unrhyw dasgau eraill, nad ydych wedi llwyddo i’w cwblhau cyn nawr, dim ond eich bod yn hyderus i wneud hynny.

Rydym yn mynd i osod tasg Cymreictod i chi ar gyfer yr wythnos – mae’n bwysig eich bod yn ceisio cwblhau’r dasg.

GWARCHOD ARGYFWNG RHWNG Y 29/06/20 A DIWEDD Y TYMOR

At sylw ein rhieni:

Fel y gwyddoch, byddwn yn parhau i gynnig gwarchod argyfwng rhwng y 29/06/20 a diwedd y tymor. Mae rhai newidiadau pwysig mae angen i chi ystyried – a wnewch chi ddarllen y llythyr yma am fanylion llawn o’r newidiadau yma, cyn cwblhau’r holiadur isod.

Holiadur gwarchod argyfwng rhwng 29/06/20 – diwedd y tymor.

Ffurflen manylion personol

Fersiwn ‘word’ o’r ffurflen manylion personol

TREFNIADAU AIL AGOR

Fel y gwyddoch, byddwn yn ailagor i ddisgyblion ar y 29ain o Fehefin. Mae angen i rieni ddarllen y ddogfennaeth isod cyn mynd ati i gwblhau’r holiadur dychwelyd isod:

Gweler y llythyr yma am fanylion dychwelyd i’ch plentyn.

Gweler y trefniadau dyddiol ymarferol yma.

Wedi darllen y ddogfennaeth uchod, mae angen i BOB riant lenwi’r holiadur ail agor yma erbyn 12:00 ar ddydd Iau 18/06/20 fan bellaf.

ADBORTH HOLIADUR DYSGU O BELL I RIENI

Diolch i bob un ohonoch wnaeth gwblhau ein holiadur ysgol diweddar ar y ddarpariaeth dysgu o bell. Rydym wedi dadansoddi eich atebion ac yn awyddus i barhau i wella ein darpariaeth o ddysgu cyfunol. Braf oedd gweld bod 86% o’n rieni yn hapus gyda’r ddarpariaeth yma hyd yn hyn o holiadur diweddar yr Awdurdod Lleol i rieni .

Gweler ein cynlluniau yn y cyflwyniad isod ar sut rydym yn mynd i ymateb i rhai o’ch awgrymiadau. Cofiwch i gysylltu gyda ni os oes  adborth pellach gennych?

Adborth i rieni ar ein cynlluniau dysgu o bell

Ein bwriad yw i ail gysylltu gyda ein rieni ar ddiwedd y tymor er mwyn canfod eich barn eto am y ddarpariaeth ac yna mireinio a gwella ymhellach wrth i ni baratoi ar gyfer mis Medi.

Bydd gwybodaeth llawn am ein cynllun ail agor yn eich cyrraedd ddydd Llun – cadwch lygaid ar ein safwe.

DIDDORDEB MEWN GYRFA DYSGU?

Oes gennych chi ddiddordeb mewn arallgyfeirio a mynd i ddysgu? Oes gennych chi blant sy’n gorffen cwrs prifysgol yr Haf yma neu’n adnabod bobl ifanc mewn sefyllfa debyg? Neu a yw’ch plentyn chi ym mlwyddyn 12 ac yn dechrau ystyried cyrsiau addysg uwch?

Gweler y llythyr yma ar gyfer manylion noson agored gan ‘Yr Athrofa’ ar nos Iau yr 11eg o Fehefin.

 

AIL AGOR AR Y 29ain o FEHEFIN

Fel y gwyddoch yn dilyn cyhoeddiad y Gweinidog Addysg a Sgiliau ddydd Mercher, mae’n fwriad i ni ail agor i ddisgyblion ar y 29ain o Fehefin. Bydd pob disgybl yn cael y cyfle i fynychu er mwyn dod i’r ysgol i gwrdd â’u hathrawon a rhai o’u cyd-ddisgyblion, i ddal i fyny ac i barhau i ddysgu ac i baratoi ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd.

Yn naturiol, mae’n gyfnod pryderus ac ansicr i bob un ohonom. Fel y gallwch ddychmygu, mi fydd profiad ysgol eich plant yn wahanol yn ystod y cyfnod digynsail yma, ond ga i’ch sicrhau y byddwn yn blaenoriaethu iechyd a diogelwch eich plant a staff yr ysgol.

Rydym wrthi yn paratoi yn drylwyr ac yn cynllunio’n ofalus fel y gall ein disgyblion ddychwelyd i amgylchedd diogel a chroesawgar.

Byddwn yn cysylltu gyda chi dros yr wythnosau nesaf gyda manylion pendant a chlir ar gyfer ail agor Bryn Tawe. Yn y cyfamser, os oes gennych unrhyw gwestiwn, yna cysylltwch gyda ni yn yr ysgol neu drwy ein e-bost arferol.

Yn dilyn y cyhoeddiad, mae Mr Nick Williams, Cyfarwyddwr Addysg Dinas a Sir Abertawe wedi ysgrifennu at holl rieni’r awdurdod – gweler ei lythyr yma.

A fyddai modd i bob rhiant lenwi’r holiadur isod gan yr Awdurdod Lleol erbyn y 10fed o Fehefin, fan pellaf? Bydd hwn yn allweddol yn ein cefnogi wrth gynllunio i ail agor.

HOLIADUR RHIENI ALl ABERTAWE (Cymraeg)

CYSGLIAD – MEDDALWEDD IAITH GYMRAEG

Disgyblion a Rieni – gweler y cyswllt yma ar gyfer lawrlwytho meddalwedd newydd, sydd yn rhad ac am ddim, er mwyn gallu cyfieithu a chywiro iaith. Mae’n hynod ddefnyddiol i rieni di-Gymraeg er mwyn eu helpu i gefnogi eu plant gyda dysgu o bell a mwy.